Neidio i'r prif gynnwy

Caiff gweithredwyr safle tirlenwi wneud cais i Awdurdod Cyllid Cymru am gymeradwyaeth i ddefnyddio dull arall i bennu pwysau’r deunydd mewn gwarediad trethadwy.

Rhaid i ddull pwyso arall gael ei gymeradwyo gan ACC cyn bod modd ei ddefnyddio.

Cyn i chi ddechrau arni

Bydd angen y wybodaeth ganlynol er mwyn llenwi'r ffurflen hon: 

  • eich rhif cofrestru ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi 
  • manylion eich busnes cofrestredig a’r safleoedd tirlenwi rydych chi'n eu gweithredu, gan gynnwys cyfeiriad pob safle tirlenwi awdurdodedig neu ddisgrifiad ohono
  • dogfennau ategol sy’n esbonio manylion y dull pwyso arall rydych chi'n bwriadu ei ddefnyddio, gan gynnwys tystiolaeth fod y dull yn cyfrifo pwysau’n deg ac yn rhesymol

Rhagor o arweiniad i helpu i lenwi’r ffurflen hon

Sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth

Gweler ein polisi preifatrwydd ynglŷn â sut rydym yn defnyddio'r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni.