Neidio i'r prif gynnwy

Sut y gwnaeth mapio dysgu mewn perthynas â'r Fframwaith Credydau a Chymwysterau osgoi dyblygu gwaith rhwng y darparwr a'r cyflogwr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyd-destun a strategaeth

Roedd dysgwyr a oedd wedi eu cofrestru ar y cymhwyster gofal gyda’r SAB, ac yn mynychu hyfforddiant mewnol gyda’r cyflogwr ar weinyddu meddyginiaeth, yn dyblygu gwaith. Wrth gwblhau’r llawlyfr meddyginiaeth, daeth yn amlwg nad oedd unrhyw gymariaethau i gynllunio’r hyfforddiant yn unol â’r Fframwaith Cymwysterau a Chwricwlwm. O ganlyniad, roedd yn rhaid i’r dysgwyr astudio elfen gwybodaeth ac arsylwadau’r uned feddyginiaeth eto.

Aeth un aelod o’r tîm SAB ati i weithio gyda’r cyflogwr i ddadansoddi a datblygu strategaeth y gellid ei defnyddio ar gyfer y cymhwyster a llyfryn hyfforddi’r cyflogwr. Fe wnaethant ddefnyddio dulliau ymarferol i ddarparu ar gyfer y dysgwr a oedd yn ddefnyddiol a hawdd i’w defnyddio i bawb dan sylw. Roedd hyn hefyd yn sicrhau bod y safonau’n cael eu bodloni a bod y dysgwr yn cael ei asesu’n briodol fel bod ganddo’r medrau priodol ar gyfer y rôl. Rhoddodd y SAB becyn hyfforddiant ac ymwybyddiaeth e-ddysgu ar waith a darparu prawf ar-lein.

Deilliannau

Mae dysgwyr yn cwblhau’r pecyn e-ddysgu erbyn hyn, ac mae angen iddynt gyflawni 100% i lwyddo yn yr uned. Wedyn, rhoddir gwybod i swyddog hyfforddi’r cyflogwr trwy neges e-bost fel y gall roi tystysgrif a datganiad tyst i’r dysgwr. Wedyn, gall asesydd y SAB ddefnyddio’r dystysgrif a’r datganiad tyst hyn i gydnabod dysgu blaenorol tuag at gyrhaeddiad dysgwyr o ran ennill y cymhwyster llawn.

Ffynhonnell: Ansawdd addysg a hyfforddiant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol oedolion, Estyn, Mai 2016