Neidio i'r prif gynnwy

Mae feirws Schmallenberg yn effeithio ar wartheg, defaid a geifr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wedi'i nodi yn Ewrop yn 2011, mae'n cael ei ledaenu trwy wybed sy'n cnoi ac fe'i canfuwyd gyntaf yn y DU yn 2012. Nid yw'n heintio pobl ac nid oes risg i iechyd y cyhoedd na diogelwch bwyd.

Nid yw SBV yn hysbysadwy yn y DU ac ni roddir unrhyw gyfyngiadau ar safleoedd lle mae SBV yn bresennol.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych yn amau bod eich da byw wedu eu heintio gyda SBV, siaradwch â'ch milfeddyg preifat. Mewn defaid a gwartheg, gall ŵyn a lloi gael eu geni gyda namau cynhenid a all hefyd fod yn nodweddiadol ar gyfer clefydau eraill fel y Tafod Glas, sy'n glefyd hysbysadwy. Os ydych yn amau bod clefyd hysbysadwy yn bresennol, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar unwaith ar 0300 303 8268. 

Arwyddion clinigol

Mae'r clefyd acíwt fel arfer yn para rhwng 2 a 7 diwrnod mewn anifeiliaid sy'n oedolion, cyn iddynt ddechrau datblygu imiwnedd cadarn. Gall gwartheg ddangos symptomau ysgafn a all gynnwys:

  • cynhyrchu llai o laeth
  • twymyn
  • dolur rhydd

Mewn defaid, mae arwyddion clinigol o SBV yn aml yn ysgafn neu'n absennol.

Gall buwch gyflo sydd wedi'i heintio drosglwyddo'r tafod glas i'w ffetws. Gall hyn arwain at erthyliad a chamffurfiad y ffetws. Gall lloi ac ŵyn gael eu geni'n fach, gwan, a nam neu ddall, a marw o fewn ychydig ddyddiau i'w geni. Mae camffurfiadau a welwyd yn cynnwys aelodau wedi plygu a chymalau llonydd, nam ar yr ymennydd a difrod i linyn asgwrn y cefn. 

Enghreifftiau o ddiagnosis gwahaniaethol:

  • Y tafod glas 
  • Dolur Rhydd Buchol Feirysol
  • Clefyd y Ffin

Trosglwyddo ac atal

Mae firws Schmallenberg yn cael ei ledaenu gan wybed heintiedig.  Mae'r pryfed hyn yn dal i ledaenu'r clefyd ym Mhrydain trwy'r hydref a'r gaeaf.

Gall camffurfiadau sy'n effeithio ar wyn a lloi sy'n dod i gysylltiad a'r feirws yn ystod beichiogrwydd arwain at anawsterau wyna neu fwrw lloi. Cysylltwch â'ch milfeddyg preifat am gyngor.

Dylid dilyn arferion bioddiogelwch da. Mae hyn yn cynnwys defnyddio nodwyddau untro a gweithdrefnau diheintio da wrth ddelio â chynhyrchion ôl-enedigaeth.