Neidio i'r prif gynnwy

Enwebwch wirfoddolwr, gweithiwr ieuenctid neu brosiect gwaith ieuenctid sy’n haeddu cydnabyddiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rydym yn gwerthfawrogi gwerth gwaith ieuenctid. Rydym yn gweithio gyda phobl i gynorthwyo eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol a’u helpu mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys:

  • datblygu eu llais
  • deall eu lle mewn cymdeithas
  • gwireddu eu potensial llawn

Rydym wedi dathlu rhagoriaeth mewn gwaith ieuenctid ers 1993 ac mae’r gwobrau’n 25 oed eleni. Mae dathlu gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan ein bod yn gwybod bod gwaith ieuenctid yn parhau i fod yn rhan bwysig o fywydau llawer o bobl ifanc.

Mae enwebiadau ar gyfer y gwobrau blynyddol ar agor yn awr tan 28 Chwefror 2019.

Enwebu prosiectau gwaith ieuenctid eithriadol

  • Ymgysylltu ag Addysg Ffurfiol, Cyflogaeth a Hyfforddiant
  • Hyrwyddo Iechyd, Lles a Ffordd o Fyw Egnïol
  • Hyrwyddo Hawliau Pobl Ifanc
  • Hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Hyrwyddo Treftadaeth a Diwylliannau yng Nghymru a Thu Hwnt
  • Hyrwyddo’r Celfyddydau, Sgiliau’n Ymwneud â’r Cyfryngau a Sgiliau Digidol

Enwebu unigolion eithriadol

Cynhelir y gwobrau ddydd Gwener 28 Mehefin 2019 yng Ngwesty’r Quay, Deganwy.