Neidio i'r prif gynnwy
Ffoto o Eluned Parrott

Mae Eluned Parrott yn aelod o Gomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Mae Eluned Parrott wedi meithrin gyrfa weithredol a gweinyddol ar draws ystod eang o sectorau, yn cynnwys trafnidiaeth, addysg a sgiliau, y trydydd sector a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Marchnata Siartredig ac Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr anweithredol Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Mae Eluned yn byw ym Mro Morgannwg.