Neidio i'r prif gynnwy

Rydym yn rheoli 2 dreth ddatganoledig a ddyluniwyd ac a grëwyd ar gyfer Cymru er mwyn helpu i godi arian hanfodol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru fel y GIG ac ysgolion, mewn cymunedau ledled Cymru.

Ers 1 Ebrill 2018, rydym wedi casglu a rheoli 2 dreth ddatganoledig ar ran Llywodraeth Cymru:

Disodlodd y trethi hyn Dreth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi yng Nghymru.

Ein diben cyffredinol yw:

  • dylunio a darparu gwasanaethau refeniw cenedlaethol Cymru
  • arwain y gwell defnydd o ddata trethdalwyr Cymru ar gyfer Cymru

Sut rydym yn gweithio gyda'n cwsmeriaid

Ein Dull

Rydym wedi ymrwymo i helpu i ddarparu system dreth deg i Gymru drwy 'Ein Dull', sy’n ffordd Gymreig o drethu. Trwy gydweithio â chyfreithwyr a thrawsgludwyr, partneriaid, trethdalwyr a'r cyhoedd, rydym yn sicrhau bod trethi’n cael eu casglu'n effeithlon ac yn effeithiol.

Mae tri therm yn diffinio ‘Ein Dull’:

  • Cydweithio sydd ag ymdeimlad o weithio tuag at nod cyffredin.
  • Cadarnhau sy’n awgrymu cadernid y gellir dibynnu arno. Mae hyn yn ymwneud â darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth
  • Cywiro sy’n ymwneud â'r ffordd rydym yn cydweithio â chi er mwyn datrys gwallau neu bryderon.

Ysbrydolir y dull hwn gan 'Ein Siarter' sy’n seiliedig ar ein gwerthoedd a'n hymddygiadau er mwyn adlewyrchu sut rydym yn gweithio:

  • gyda’n gilydd
  • gyda’n trethdalwyr
  • gyda chynrychiolwyr
  • gyda sefydliadau partner

Canllawiau a gwasanaethau

Rydym yn dylunio, yn datblygu ac yn darparu gwasanaethau treth digidol yn gyntaf dwyieithog, di-bapur er mwyn diwallu anghenion pobl ledled Cymru.

Mae ein harbenigwyr yn cynnig cymorth, arweiniad a sicrwydd pwrpasol o'r dechrau i’r diwedd er mwyn helpu pobl dalu'r dreth iawn ar yr adeg iawn.

Dysgwch fwy am ein canllawiau a'n gwasanaethau.

Ym mis Mawrth 2023, gofynnodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ni archwilio sut i weithredu ardoll ymwelwyr i Gymru. Darllenwch fwy am ein gwaith darganfod ardoll ymwelwyr.

Rydym hefyd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i gefnogi Treth Gwarediadau Tirlenwi.

Sut rydym yn gweithio gyda'n gilydd?

Ein pobl a'n gwerthoedd

Rydym yn sefydliad digidol, data-alluog, ‘wedi’i arwain gan bobl’, gyda dros 80 aelod o staff. Mae ein talent, ein sgiliau a'n profiad yn ymwneud â 14 o wahanol broffesiynau

Ar ein gorau, rydym yn cydweithio mewn ffordd sy'n arloesol, yn gydweithredol ac yn garedig.

Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb ac amrywiaeth ac yn falch o fod:

Gallwch ddysgu mwy am weithio gyda ni yn ein Harolwg Pobl.

Ein blaenoriaethau

Rydym yn seilio popeth a wnawn ar ein Cynllun Corfforaethol 2022 i 2025. Mae hwn yn gosod ein diben, ein hamcanion strategol a'n huchelgeisiau tymor hwy.

Rydym yn adrodd ar ein gwaith yn flynyddol. Gweler ein:

Gwybodaeth gorfforaethol