Neidio i'r prif gynnwy

Bob blwyddyn, rydym yn cael dyraniad, neu gwota, o bysgod y cawn eu dal.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o ddirprwyaeth y DU, rydym yn mynychu cyfarfodydd Cyngor Amaethyddiaeth a Physgodfeydd yr UE ym Mrwsel. Yno, rydym yn trafod cwotâu pysgota gydag eraill yn yr UE sydd â diddordeb. Mae Cyngor yr UE yn cytuno ar gyfanswm y pysgod i'w dal bob blwyddyn. Mae pob aelod-wladwriaeth yn cael canran sefydlog o'r cyfanswm hwnnw a elwir yn yr allwedd 'sefydlogrwydd cymharol'.

Cyfanswm y ddalfa a ganiateir

Mae cyfran y DU o 'gyfanswm y ddalfa a ganiateir' yn cael ei rhannu rhwng 4 Gweinyddiaeth Pysgodfeydd y DU. Mae hyn yn seiliedig ar fformiwla hanesyddol.

Dyrannu Cwota Sefydlog

Rydym yn dosrannu cwota o fewn diwydiant pysgota'r DU gan ddefnyddio unedau dyrannu cwotâu sefydlog. Mae'r dyraniad hwn:

  • yn berthnasol i bob cwch
  • yn caniatáu i'r daliwr ddal ei gyfran o'r cwota ar gyfer stoc pysgota
  • yn cael ei roi i gychod sy'n fwy na 10 metr yn unig
  • yn cydymffurfio ag amryfal addasiadau a wneir gan y Gweinyddiaethau Pysgodfeydd.

Ni allwn bennu'r cwota o flwyddyn i flwyddyn oherwydd mae'n dibynnu ar:

  • swm y cwota a ddyrennir i'r DU ar gyfer y flwyddyn honno
  • unrhyw addasiadau a wneir gan y Weinyddiaeth Pysgodfeydd i sicrhau cynaliadwyedd stociau.

Ar ôl dyrannu cwota, mae swm yn weddill. Dyma'r swm y gall cychod dan 10 metr ei bysgota. Eto, caiff y swm hwn ei rannu rhwng pedair Gweinyddiaeth Pysgodfeydd y DU, fel y nodir yng Nghoncordat Pysgodfeydd y DU 2012.