
Dydd Miwsig Cymru
Bydd Dydd Miwsig Cymru yn digwydd ar 8 Chwefror 2019
P’un a ydych chi’n hoffi miwsig indi, roc, pync, ffync, gwerin, electronica, hip hop neu unrhyw beth arall, mae miwsig anhygoel yn cael ei greu yn y Gymraeg i chi ei ddarganfod. Mae’r diwrnod yn dathlu pob math o fiwsig Cymraeg.
Ymuna yn yr hwyl
Mae cymaint yn mynd ymlaen i ddathlu Dydd Miwsig Cymru – dyma sut mae ymuno yn yr hwyl:
Beth am wrando ar restrau chwarae arbennig Dydd Miwsig Cymru
Dyma gyfres o restrau chwarae o artistiaid Cymreig gwych:
Goreuon Cymru
Gwranda ar ein rhestr chwarae ddwyieithog Goreuon Cymru, sy'n cynnwys bandiau fel Catatonia, Alffa a'r Super Furry Animals.
Gwrando ar Spotify
Seren a Sbarc
Mae'r rhestr chwarae yma'n wych ar gyfer disgo ysgol neu barti penblwydd i blant.
Gwrando ar Spotify
Yn y caffi
Rhestr chwarae berffaith ar gyfer ymlacio mewn caffi.
Gwrando ar Spotify
Yn y bar
Rhedeg bar? Beth am roi cynnig ar y rhestr chwarae yma i ddathlu Dydd Miwsig Cymru?
Gwrando ar Spotify
Ffwdi
Rhestr chwarae dwyieithog sy'n ffab os wyt ti’n rhedeg lle byrgyrs, siop peis, neu ŵyl fwyd stryd.
Gwrando ar Spotify
Cyn cwsg
Caneuon ‘chill’ i wrando arnyn nhw cyn cwsg neu yn y bath.
Gwrando ar Spotify
Dros baned Gymreig
Rhestr chwarae i ti wrando ar dros baned a chacen/teisen.
Gwrando ar Spotify
Reggae, Dub a Ska
Mae llu o gerddoriaeth Reggae, Dub a Ska yn Gymraeg. Dyma restr i ti.
Gwrando ar Spotify
Cyn mynd mas
Rho dy lipstic neu dy grys gorau mlaen, a dawnsia rownd y tŷ gyda’r rhestr chwarae princs.
Gwrando ar Spotify
Chwysu
Chwyswch yn jim i’r tiwns ‘ma.
Gwrando ar Spotify
Mae ein holl restrau chwarae ar Spotify
Beth am gynnal gig?
Os oes gen ti leoliad busnes, Neuadd Gymuned neu hyd yn oed ardd gefn, fe gei di syniadau a chyngor da y nein canllaw i gynnal gigs! Hefyd, efallai gallet ti gael cymorth drwy ein cynllun Noson Allan.
Hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru
Lawrlwythwch a defnyddiwch yr adnoddau hyn i hyrwyddo Dydd Miwsig Cymru