Neidio i'r prif gynnwy

Feirws sy'n achosi dolur rhydd epidemig y moch.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Nid yw'n effeithio o gwbl ar bobl.

Amheuon a chadarnhad

Os ydych chi'n meddwl y gallai'r dolur rhydd epidemig fod ar eich moch, cysylltwch â'ch milfeddyg ar unwaith.

Arwyddion clinigol

Gallai'r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol:

  • dolur rhydd gwlyb iawn sy'n lledaenu'n gyflym
  • colli awydd bwyta
  • dadhydradu
  • blinder
  • cyfogi

Mae cyfradd uchel yn marw o'r clefyd. Mae perchyll mewn unedau awyr agored neu unedau llawr gwellt yn marw weithiau cyn bod yr arwyddion clinigol yn cael eu gweld.

Trosglwyddo ac atal

Mae dolur rhydd epidemig y moch yn hynod heintus. Mae'n lledaenu trwy gysylltiad â:

  • moch sydd wedi'u heintio
  • unrhyw beth â'u tail arno, gan gynnwys sarn, cerbydau, dillad a bwyd

Gallwch helpu i atal y clefyd trwy gadw at fesurau bioddiogelwch llym.