Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 11 Ebrill 2012.

Cyfnod ymgynghori:
23 Chwefror 2012 i 11 Ebrill 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 154 KB

PDF
154 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym am gael eich barn chi ar yr adolygiad hwn o Reoliad 13.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn ar y cyd ac Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yn adolygu Rheoliad 13 o’r Rheoliadau Gwastraff.

Mae Rheoliad 13 (2) yn datgan bod casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg yn ffurf o gasglu ar wahân.

Rydym o’r farn nad yw’r rheoliad presennol yn adlewyrchu’n gywir y Gyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff 2008/98/EC ddiwygiedig ar gasglu gwastraff ailgylchadwy ar wahân.

Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i’r rheoliad hwn fel bod casglu gwastraff ailgylchadwy cymysg (eitemau gwahanol yn cael eu casglu er mwyn eu hailgylchu gyda’i gilydd) yn wahanol i gasglu gwastraff ailgylchadwy ar wahân.

Rydym hefyd yn ymgynghori ar newidiadau i Reoliad 13(3) gan nad yw’n cynnwys yr amod bod y ddyletswydd ar gyfer casglu ar wahân yn gymwys dim ond os yw casglu ar wahân yn ymarferol ar lefel dechnegol amgylcheddol ac economaidd ac yn angenrheidiol i ddiwallu safonau ansawdd priodol y sectorau ailgylchu perthnasol.

Mae'r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Adran yr Amgylchedd Bwyd a Materion Gwledig.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 406 KB

PDF
406 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.