Neidio i'r prif gynnwy

7. Pobl anabl

Os yw eich eiddo wedi ei addasu fel a ddisgrifir yn un o’r pwyntiau bwled isod ar gyfer rhywun sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol, bydd gennych hawl gael gostyngiad o un band gwerthuso yn eich treth gyngor.

I gael gostwng y band gwerthuso, rhaid i’r gwaith addasu fod yn gwbl hanfodol neu o bwysigrwydd mawr i les y person anabl. Fydd dim gostyngiad os yw’r addasiadau tu allan i’r adeilad yn unig. 

Addasiadau cymwys

  • stafell ymolchi neu gegin ychwanegol i ateb anghenion y person anabl
  • stafell ychwanegol neu addasiad i stafell (heblaw stafell molchi, gegin neu doiled) i ateb anghenion y person anabl ac i gael ei defnyddio yn bennaf ganddo.
  • gofod ychwanegol tu mewn i’r adeilad er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn.

Ni chodir Treth Gyngor ar anecs annibynnol pan fo’r person sy’n byw ynddo â nam meddyliol difrifol ac yn berthynas dibynnol ar berchennog y prif dŷ.

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.