Neidio i'r prif gynnwy

5. Nam Meddyliol Difrifol

Bydd unrhyw un sydd ag ardystiad meddygol bod ganddo nam difrifol deallusol neu gymdeithasol, yr ymddengys ei fod yn nam parhaol, yn gallu bod yn gymwys am ostyngiad ar ei Dreth Gyngor.

Mae clefyd Alzheimer, Parkinson, anawsterau dysgu difrifol, strôc a mathau eraill o ddementia yn gallu arwain at nam meddyliol difrifol, ond gall cyflyrau eraill ei achosi hefyd. I fod yn gymwys, rhaid i’r person â nam meddyliol difrifol fod â hawl i un o’r budd-daliadau canlynol hefyd.

Budd-daliadau cymwys

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i’r Anabl (cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen gofal)
  • Cynnydd yn y pensiwn anabledd (am fod angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i’r Anabl
  • Atodiad neu Lwfans i’r Anghyflogadwy
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Cymhorthdal Incwm (sy’n cynnwys premiwm anabledd)
  • Taliad Annibyniaeth Personol (cyfradd safonol neu uwch)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle bo person â gallu cyfyngedig i wneud gwaith a/neu weithgarwch cysylltiedig)

Lefel y disgownt

Os ydych wedi cael diagnosis meddygol o nam meddyliol difrifol ac yn byw ar ben eich hun neu ddim ond gyda phobl eraill â nam meddyliol difrifol, cewch eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor. 

Os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol ac yn byw gydag un oedolyn arall, bydd eich aelwyd yn cael disgownt o 25%.

Os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol ac yn byw gyda 2 neu fwy o oedolion fydd dim gostyngiad. Fodd bynnag, os ydych yn byw gyda 2 oedolyn sy'n ofalwyr llawn amser, gallai eich cartref gael gostyngiad o 50% ar yr amod bod yr aelwyd yn bodloni amodau'r gofalwr yn Adran 6 Gofalwyr

Ni chodir Treth Gyngor ar anecs annibynnol pan fo’r person sy’n byw ynddo â nam meddyliol difrifol ac yn berthynas dibynnol ar berchennog y prif dŷ.

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech lenwi ffurflen gais neu gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.