5. Nam Meddyliol Difrifol

Os oes meddyg wedi ardystio bod gan rywun gyflwr parhaol sy’n amharu’n ddifrifol ar ei allu deallusol neu gymdeithasol, gall yr unigolyn hwnnw fod yn gymwys am ddisgownt Treth Gyngor.

Mae clefyd Alzheimer, Parkinson, anawsterau dysgu difrifol, strôc a mathau eraill o ddementia yn gallu arwain at nam meddyliol difrifol, ond gall cyflyrau eraill ei achosi hefyd. I fod yn gymwys, rhaid i’r person â nam meddyliol difrifol fod â hawl i un o’r budd-daliadau canlynol hefyd (p’un a yw’n eu derbyn neu beidio).

Budd-daliadau cymwys

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i’r Anabl (cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen gofal)
  • Cynnydd yn y pensiwn anabledd (am fod angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i’r Anabl
  • Atodiad neu Lwfans i’r Anghyflogadwy
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Cymhorthdal Incwm (sy’n cynnwys premiwm anabledd)
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle bo person â gallu cyfyngedig i wneud gwaith a/neu weithgarwch cysylltiedig)

Lefel y disgownt

Os ydych wedi cael diagnosis meddygol o nam meddyliol difrifol ac yn byw ar ben eich hun neu ddim ond gyda phobl eraill â nam meddyliol difrifol, cewch eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor.

Os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol ac yn byw gydag un oedolyn arall, bydd eich aelwyd yn cael disgownt o 25%.

Os ydych wedi cael diagnosis o nam meddyliol difrifol ac yn byw gyda 2 neu fwy o oedolion fydd dim gostyngiad.

Ni chodir Treth Gyngor ar anecs annibynnol pan fo’r person sy’n byw ynddo â nam meddyliol difrifol ac yn berthynas dibynnol ar berchennog y prif dŷ.

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.