Neidio i'r prif gynnwy

6. Gofalwyr

Os ydych yn ofalwr, gallech gael hyd at 50% o ostyngiad yn eich Treth Gyngor - gan ddibynnu pwy arall sy’n byw yn eich eiddo. I fod yn gymwys am ostyngiad, rhaid ichi fodloni pob un o’r meini prawf isod:

  • rydych yn darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos
  • rydych yn byw yn yr un eiddo â’r person rydych yn gofalu amdano
  • nid ydych yn briod nac yn bartner i’r person rydych yn gofalu amdano, ac ods ydych yn gofalu am blentyn o dan 18 oed, nid ydych yn rhiant iddo
  • mae’r person rydych yn gofalu amdano’n cael un o’r canlynol:
    • cyfradd uwch neu ganolradd yr elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl;
    • yr elfen bywyd beunyddiol o’r Taliad Annibyniaeth Personol, ar unrhyw gyfradd;
    • y Lwfans Gweini, ar unrhyw gyfradd;
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog; neu
    • cyfradd uchaf y Lwfans Gweini Cyson

Nid oes rhaid ichi hawlio’r Lwfans Gofalwr i fod yn gymwys am y gostyngiad hwn ac ni fydd eich incwm na’ch cynilion yn gwneud gwahaniaeth.

Hyd yn oed os oes mwy nag un gofalwr yn yr eiddo, gallwch gael hyd at 50% o ostyngiad os ydych yn bodloni pob un o’r amodau.

Os yw rhywun wedi gadael ei eiddo’n wag, ac nid yr eiddo hwnnw yw ei brif breswylfa bellach, mae’n bosibl na fydd rhaid iddo dalu’r dreth gyngor. Byddai hyn yn berthnasol i ofalwr sy’n byw gyda’r cleient ac yn rhoi gofal personol oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol neu anhwylder meddwl.

Os ydych yn tybio y gallech fod yn gymwys, dylech gysylltu ag adran treth gyngor eich awdurdod lleol.