Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn falch o gyhoeddi'r trydydd cynnydd a'r cynnydd olaf yn lefel y cyfalaf y gall y rhai mewn gofal preswyl ei gadw heb orfod defnyddio hyn ar gyfer eu gofal. Bydd y cynnydd cynlluniedig yn hyn i £50,000 o fis Ebrill nesaf yn cyflawni un o'r chwe ymrwymiad yn Symud Cymru Ymlaen i fwy na dyblu'r swm y gall pobl y mae arnynt angen gofal preswyl ei gadw i'w ddefnyddio fel y mynnont.

Yn sgil ymgysylltu blaenorol â rhanddeiliaid, gwnaethom gadarnhau y byddem yn cynyddu'r terfyn cyfalaf fesul cam o'i lefel wreiddiol, sef £24,000, i lefel ein hymrwymiad, sef £50,000. O fis Ebrill 2017 codwyd y terfyn i £30,000, gyda chymorth swm ychwanegol o £4.5 miliwn y flwyddyn yn cael ei ychwanegu at y Grant Cynnal Refeniw Grant (RSG) i alluogi'r awdurdodau lleol i roi hyn ar waith. O fis Ebrill codwyd y terfyn ymhellach i £40,000 gyda swm ychwanegol o  £7 miliwn y flwyddyn yn cael ei ychwanegu at yr RSG i wneud cyllid o gyfanswm £11.5 miliwn y flwyddyn.

Gellir gweld llwyddiant y polisi hwn trwy'r effaith uniongyrchol y mae'n ei chael ar breswylwyr cartrefi gofal yng Nghymru. Dros y deunaw mis ers inni gyflwyno'r cynnydd cyntaf, mae tua 1,500 o breswylwyr cartrefi gofal wedi elwa, sy'n dipyn o gamp mewn amserlen weddol dynn. Yn wyneb y sefyllfa gadarnhaol hon rwyf yn falch  o gyhoeddi'r cynnydd terfynol i £50,000 yn y terfyn, a fydd o fudd i ragor o breswylwyr a darpar breswylwyr cartrefi gofal yn y dyfodol. Bydd hyn yn gosod Cymru mewn sefyllfa ffodus iawn o fod â'r terfyn cyfalaf uchaf ar gyfer gofal preswyl yn y DU, gan roi i'n preswylwyr swm mwy diriaethol o gyfalaf i'w ddefnyddio fel y mynnont.

Fel yn achos codiadau blaenorol bydd y cynnydd hwn yn ei gwneud yn ofynnol i reoliadau diwygio gael eu gwneud gan y Cynulliad Cenedlaethol.  Caiff y rhain eu cyflwyno y flwyddyn nesaf. Yn ddarostyngedig i hyn, bwriedir cyflwyno'r terfyn newydd o fis Ebrill 2019 ymlaen. Er mwyn helpu’r awdurdodau lleol i weithredu'r cynnydd hwn, bydd £7 miliwn y flwyddyn yn cael ei ychwanegu at setliad terfynol awdurdodau lleol ar gyfer 2019-20. Fe gyhoeddir y setliad hwn yn nes ymlaen yn y mis hwn. Bydd hyn yn golygu bod cyllid o gyfanswm o £18.5 miliwn ar gael i roi'r polisi hwn ar waith.

Ers mynd ati i gyflwyno'r polisi hwn rydym wedi cynnal gwaith monitro rheolaidd i gasglu data oddi wrth yr awdurdodau lleol ar nifer y preswylwyr cartrefi gofal sy'n elwa a chostau cysylltiedig rhoi'r cynllun ar waith i sicrhau bod y cyllid sy'n cael ei ddarparu'n briodol. Byddwn yn parhau i wneud hyn nid yn unig i nodi nifer y preswylwyr yng Nghymru sy'n elwa ar y polisi hwn ond i barhau i sicrhau bod lefel y cyllid sy'n cael ei ddarparu'n briodol, gan ganiatáu i addasiadau gael eu gwneud yn ôl yr angen. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd,  byddwn yn falch o wneud hynny.