Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwastraff a phecynnu plastig yn faterion pwysig y mae lle blaenllaw iddynt ar yr agenda wleidyddol a chyhoeddus. Rydym yn cynhyrchu 2.3 miliwn o dunelli o wastraff pecynnu plastig yn y DU bob blwyddyn ac o ran pecynnu gwastraff yn gyffredinol, rydym yn cynhyrchu tua 11.5 miliwn tunnell yn flynyddol yn y DU. Mae Cymru’n arwain y ffordd gydag ailgylchu a rheoli gwastraff. Yn ogystal â gwella’r modd y caiff gwastraff cartrefi a gwastraff busnesau ei gasglu rydym yn buddsoddi mewn seilwaith ailbrosesu ac wedi ymrwymo i ddatblygu’r farchnad ar gyfer deunydd ailgylchu yng Nghymru.

Mae Cymru’n arweinydd byd yn y maes ailgylchu ond rydym am wneud mwy, gan adeiladu ar yr hyn yr ydym eisoes wedi’i gyflawni. Mae angen i ni gydweithio ag eraill er mwyn mynd i’r afael â materion byd-eang fel lleihau faint o becynnu rydym yn ei ddefnyddio, a chymell pobl i gynllunio cynhyrchion a phecynnu gwell, fel y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu’n haws. Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill i ddatblygu ymgynghoriadau ar y cyd ar Gyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr (EPR) ar gyfer pecynnu a Chynllun Dychwelyd Ernes ar gyfer cwpanau a photeli diod. Wrth wneud hyn rydw i wedi ystyried yn ofalus ac wedi ceisio adlewyrchu cyfraniadau defnyddiol yr Aelodau ar y materion hyn, ynghyd â thystiolaeth amrywiol gan eraill.

Bydd y cydymgynghoriadau hyn yn cael eu cyflwyno heddiw. Mae’r dogfennau ymgynghori a’r ffurflenni ymateb ar gael yn y dolenni a ddarperir isod.

Consultation on reforming the UK packaging producer responsibility system (DEFRA)

Introducing a Deposit Return Scheme (DRS) in England, Wales and Northern Ireland (DEFRA)

Mae’r ymgynghoriad cyntaf, sy’n berthnasol i’r DU gyfan, yn ymwneud ag EPR ar gyfer pecynnu. Diben cynlluniau EPR yw sicrhau bod cynhyrchwyr yn talu am gost rheoli gwastraff ar gyfer y cynhyrchion y maen nhw’n eu rhoi ar y farchnad. Mae hyn yn cyd-fynd ag egwyddor y ‘llygrwr sy’n talu’. Ar hyn o bryd, yn y DU, amcangyfrifir bod cynhyrchwyr yn talu cyn lleied â 10% o’r gost gyffredinol o ailgylchu eu gwastraff pecynnu.

Mae’n amlwg y bydd angen i’r cyfraniad hwn godi’n sylweddol, ac mae’r ddogfen ymgynghori’n cynnwys cynigion ar sut gellir cyflawni, rheoli a monitro hyn. Y prif ddiben fyddai sicrhau y gellir adfer yn llawn gost net rheoli gwastraff pecynnu, gan ddarparu ffynhonnell bosibl o refeniw i Awdurdodau Lleol. Un o nodau pwysig eraill EPR fyddai cymell cynhyrchwyr i wella’r ffordd y mae cynhyrchion yn cael eu cynllunio, er enghraifft, drwy ei gwneud yn haws i ailddefnyddio neu ailgylchu deunydd pecynnu. Byddai hyn yn gwella ymhellach waith rheoli gwastraff, yn sbarduno cyfleoedd economaidd yng Nghymru ac yn cynorthwyo gyda’n huchelgais o fod yn economi gwbl gylchol.

Mae’r ail ymgynghoriad, sy’n berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yn ymwneud â Chynllun Dychwelyd Ernes (DRS) ar gyfer cwpanau a photeli diod. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgynghori ar gynigion ar gyfer DRS y llynedd. 

Rydw i’n awyddus i ymchwilio i weld a allai DRS ar gyfer cwpanau a photeli diod yn gweithio i Gymru, o gofio ein cyfradd ailgylchu sydd eisoes yn uchel a’r ffaith mai ni yw’r unig wlad yn y DU sy’n pennu targedau statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol. Hoffwn glywed safbwyntiau o bob sector, gan randdeiliaid a chan y cyhoedd ar y cynigion hyn gan fy mod am ddeall yr effaith debygol ar gyfraddau ailgylchu ac incwm awdurdodau lleol, ac ar fusnesau hefyd, gan gynnwys manwerthwyr mawr a bach. Os yw DRS i gael ei gyflwyno yng Nghymru, bydd disgwyl i bobl dalu ernes ar gwpanau a photeli diod ac yna bydd rhaid iddynt ddychwelyd y cwpanau a’r poteli gwag i bwyntiau casglu er mwyn hawlio eu hernes yn ôl, yn hytrach na dim ond rhannu a thefnu eu casgliadau gwastraff i’w casglu ar garreg y drws gan eu cynghorau.

Y cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y dogfennau ymgynghori yw’r camau cyntaf tuag at gynllunio dull integredig, strategol o reoli gwastraff pecynnu a’m gobaith yw y byddwch yn annog eich etholwyr i ddarllen yr ymgynghoriadau ac ymateb iddynt.       

Mae cyhoeddiad arall, perthnasol ledled y DU, yn cael ei gyhoeddi gan Drysorlys Ei Mawrhydi heddiw mewn perthynas â threth arfaethedig ar gynhyrchu a mewnforio pecynnu plastig. Cynigir y bydd y dreth hon yn berthnasol i becynnu plastig nad yw’n cynnwys o leiaf 30% o blastig wedi’i ailgylchu, Mae’r ymgynghoriad ar gael drwy’r ddolen hon.

Plastic Packaging Tax (DEFRA)

Mae yna ddiddordeb eang ymysg y cyhoedd a llawer o ymgysylltu ynglŷn â gwastraff a phecynnu. Gobeithio y bydd cryn ddiddordeb yn yr ymgynghoriadau hyn gan bobl yng Nghymru ac rydw i’n croesawu eich cymorth wrth annog pobl i ymateb i’r cynllun hwn.