Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2018
Diweddarwyd diwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Ar 25 Medi, gwnes ddatganiad llafar ar y Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer ASD gan amlinellu ein cynlluniau am Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, i'w wneud o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006.  

Heddiw, rydym yn gwireddu ein hymrwymiad i atgyfnerthu'r broses o gyflenwi'r Cynllun Gweithredu Strategol drwy gyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion am God Ymarfer ar gyfer awtistiaeth.  Rydym yn ceisio barn ar ein cynlluniau i roi gofynion ar gyrff statudol i gefnogi pobl awtistig yn seiliedig ar eu hanghenion. 

Mae'r cynigion yn y ddogfen ymgynghori hon yn ymateb i adborth a gafwyd gan bobl awtistig a'u grwpiau cynrychioliadol, a chyngor a ddarparwyd gan ymarferwyr arbenigol sy'n darparu diagnosis o awtistiaeth a gwasanaethau cymorth. Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi cynigion ar: 

  1.   Trefniadau ar gyfer asesu a diagnosis.
  2.   Trefniadau ar gyfer cael gafael ar ofal a chefnogaeth. 
  3.   Trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant.
  4.   Trefniadau ar gyfer cynllunio, monitro a chyfraniad rhanddeiliad.

Mae ein cynigion yn ceisio sicrhau bod yr amrywiaeth o wasanaethau a chymorth i bobl awtistig yn cael eu cyfleu/cyfathrebu'n fwy effeithiol.  Mae'r cynigion yn rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar sut i addasu eu hymarfer er mwyn diwallu anghenion pobl awtistig yn well. Drwy'r Cod, rydym hefyd yn bwriadu sefydlu rhwymedïau cadarn a fydd yn galluogi Llywodraeth Cymru i ymyrryd lle ceir tystiolaeth nad yw sefydliadau statudol wedi cydymffurfio â gofynion y Cod.

Yn benodol, bydd ein cynigion yn rhoi gofynion ar gyrff statudol i wneud y canlynol:

  • Darparu gwasanaethau asesu a diagnosio awtistiaeth sy'n ystyried canllawiau NICE.
  • Sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn paratoi, cyhoeddi ac adolygu llwybrau diagnostig.
  • Cydymffurfio â'r safon amser aros bresennol o 26 wythnos ar gyfer asesu, sy'n cofnodi'r amser rhwng yr atgyfeiriad a'r apwyntiad wyneb yn wyneb cyntaf.
  • Sefydlu llwybrau i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu'n brydlon rhwng gwasanaethau.
  • Cydymffurfio â deddfwriaeth bresennol na chaniateir ystyried cyniferydd deallusrwydd (IQ) fel rhan o'r meini prawf cymhwystra ar gyfer asesiad o anghenion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).
  • Sicrhau bod gwasanaethau iechyd sylfaenol, megis meddygon teulu, yn ymwybodol o'r ystod lawn o wasanaethau awtistiaeth a bod llwybrau clir ar gyfer atgyfeirio.
  • Sicrhau bod gan unrhyw un sy'n cynnal asesiad o anghenion o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y sgiliau, y wybodaeth a'r cymhwysedd angenrheidiol. 
  • Sicrhau bod gwasanaethau Gwybodaeth, Cymorth a Chyngor awdurdodau lleol yn darparu gwybodaeth am wasanaethau awtistiaeth lleol.
  • Asesu anghenion hyfforddiant awtistiaeth pob aelod o'u staff sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a nodi lefel yr hyfforddiant sydd ei angen, yn unol â rolau a chyfrifoldebau eu swyddi.
  • Gwneud trefniadau i sicrhau y gall yr holl staff gael gafael ar yr hyfforddiant a nodir er mwyn diwallu eu hanghenion hyfforddiant o ran gwybodaeth ac ymwybyddiaeth o awtistiaeth.
  • Gydymffurfio â dyletswyddau perthnasol yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru), Rhan 2 a 9, i sicrhau bod anghenion pobl awtistig yn cael eu hystyried wrth ddatblygu Asesiadau Poblogaeth a Chynlluniau Ardal.
  • Sicrhau bod rhanddeiliaid yn cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio a chyflenwi gwasanaethau awtistiaeth.
  • Sicrhau bod hyrwyddwr awtistiaeth yn cael ei benodi ar lefel ddigon uchel i gynrychioli anghenion pobl awtistig.

Mae'r ddadl ddiweddar a ysgogwyd gan y Bil Awtistiaeth (Cymru) wedi galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i drafod anghenion pobl awtistig yn llawn. Gwrandewais a chyfrannais yn uniongyrchol wrth i sawl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried rhinweddau'r Bil.  Yn ogystal, siaradais â llawer o bobl awtistig a'u teuluoedd a'u gofalwyr. 

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth ynghylch yr anawsterau go iawn y mae'r unigolion a'r teuluoedd hyn yn eu hwynebu bob dydd. Rwy'n dal i fod yn argyhoeddedig fod gennym yr holl ysgogiadau deddfwriaethol sydd eu hangen arnom i wella gwasanaethau awtistiaeth. Rhaid mai'r ateb yw sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd gennym mewn grym yn gweithio er budd pobl awtistig. Bydd deddfwriaeth, sy'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth y gwasanaethau cymorth ac yn drysu ymarferwyr wrth dorri ar draws y ddeddfwriaeth sy'n seiliedig ar anghenion sydd gennym ar waith eisoes, yn arafu'r cynnydd yn hytrach na'i gyflymu.

Rydym yn cynnig parhau â'r targed amser aros o 26 wythnos i blant  a phobl ifanc, a'i ymestyn i gynnwys oedolion. Mae'r dull hwn yn cofnodi amseroedd aros o'r atgyfeiriad cyntaf i'r apwyntiad wyneb yn wyneb cyntaf. Mae canllawiau NICE yn cynghori y dylai'r asesiad ddechrau o fewn 13 wythnos, ond gellir cofnodi hyn mewn sawl ffordd wahanol dim ond er mwyn bodloni targedau. O dan ein system gyfredol, yn ystod yr amser aros, caiff tystiolaeth ei chasglu i gefnogi'r apwyntiad asesu ac i lywio penderfyniadau diagnostig.  Os cyflwynir amser aros gorfodol o 13 wythnos, caiff adnoddau arbenigol eu dargyfeirio oddi wrth wasanaethau cymorth ôl-ddiagnostig neu oddi wrth gyflyrau niwroddatblygiadol eraill er mwyn bodloni'r amodau hyn. 

Rwy'n deall pam fod rhai yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth, gan fod pobl awtistig yn dymuno, yn gywir ddigon, i'w hanghenion gael eu diwallu'n llawn.  Fodd bynnag, mae mwyafrif helaeth y dystiolaeth gan sefydliadau proffesiynol yn feirniadol o'r Bil.  Mae hyn yn cynnwys tystiolaeth a ddarparwyd gan y Comisiynydd Plant, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol, Y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Y Coleg Brenhinol Therapi Lleferydd ac Iaith, Cydffederasiwn y GIG ac ymarferwyr eraill sy'n gweithio i gyflenwi gwasanaethau yn y GIG ac awdurdodau lleol.  

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol yn y gwaith o ddatblygu gwasanaethau awtistiaeth, yn bennaf £13 miliwn i gyflwyno'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig newydd, a £2 filiwn y flwyddyn i wella gwasanaethau diagnostig ac asesiad niwroddatblygol plant a phobl ifanc. Rydym yn parhau i gefnogi'r Tîm Datblygu Awtistiaeth Cenedlaethol i gefnogi datblygiad gwasanaethau, a gynhelir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r tîm wedi datblygu amrywiaeth eang o adnoddau awtistiaeth uchel eu parch sydd ar gael am ddim i bawb ar wefan ASDinfowales (www.asdinfowales.co.uk). 

Ceir cytundeb eang gan sefydliadau sy'n cyflenwi gwelliannau fod angen amser ar y gwasanaethau gwell rydym yn eu rhoi ar waith i ymwreiddio. Rwy'n deall bod pobl awtistig eisiau sicrwydd y bydd y ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio ar eu cyfer nhw yn yr hirdymor, a dyna'r rheswm pam rwy'n ymgynghori ar ein cynlluniau am God Ymarfer ar gyfer awtistiaeth. Rwyf am glywed eu barn ar y cynigion rwyf yn eu cyflwyno heddiw gan gynnwys ble y gallwn wneud gwelliannau pellach.