Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar ran Llywodraeth Cymru, rwy’n croesawu’r Adroddiad Blynyddol gan Gomisiynydd Plant Cymru. Rydym yn cydnabod y gwaith diflino y mae’r Comisiynydd wedi’i wneud gydol y flwyddyn ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Mae gwaith y Comisiynydd, wrth roi llais i blant a phobl ifanc ac eirioli ar eu rhan, yn hollbwysig i ddiogelu a hyrwyddo eu hawliau a’u lles.

Fel Llywodraeth, rydym yn falch iawn o’n hanes o hyrwyddo a chynnal hawliau plant a phobl ifanc. Mae’n hanfodol ein bod yn clywed gan ein pobl ifanc ac yn gwrando arnynt. Rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw rhoi cyfle iddynt wneud cyfraniad ystyrlon at lywio ein polisïau. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â nhw ar faterion sy’n effeithio arnynt, gan gynnwys cyfeiriad Cymru yn y dyfodol ar ôl Brexit.

Cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru ei Hadroddiad Blynyddol 2017-18 ar 1 Hydref. Mae’r Adroddiad yn nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud gan ei swyddfa rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018. Yn ei hadroddiad, mae’r Comisiynydd wedi tynnu sylw at rai o’r meysydd y mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd mawr ynddynt. Mae hyn yn cynnwys gwella eiriolaeth annibynnol ar gyfer plant a phobl ifanc a datblygu cynigion i gael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol.

Mae Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd yn cynnwys 15 argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru. Cafwyd dadl ynghylch Adroddiad y Comisiynydd mewn cyfarfod llawn o’r Cynulliad Cenedlaethol ar 13 Tachwedd 2018. Rydym wedi pwyso a mesur y trafodaethau hynny ac mae’r ddogfen rydym yn ei chyhoeddi heddiw yn nodi ymateb cynhwysfawr. Rydym wedi rhoi sylw i bob argymhelliad ac wedi darparu gwybodaeth am y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi’u cymryd neu yn bwriadu eu cymryd.

Rwy’n falch ein bod fel Llywodraeth yn gallu derbyn neu dderbyn mewn egwyddor holl argymhellion y Comisiynydd. Mae hyn yn dangos ein bod yn cymryd hawliau plant o ddifrif ar draws Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i rannu’r un nod â’r Comisiynydd, sef sicrhau bod plant yn ganolog ym mhopeth a wnawn.

Gellir ond sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer ein plant drwy gael pawb i gydweithio i ddarparu gwasanaethau mewn ffordd gydlynus, integredig ac amserol. Rydym wedi ymrwymo i wneud hyn er mwyn gallu gwneud ein gorau glas ar gyfer plant, teuluoedd, eu cymunedau a’n cenedl.

Fel Llywodraeth rydym wedi cydweithio â’r Comisiynydd ac eraill er budd plant a phobl ifanc yng Nghymru a byddwn yn parhau i wneud hynny.