Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn hysbysu aelodau bod y Papur Gwyn ar Gyfrifiad 2021,  Helpu i Lunio ein Dyfodol: Cyfrifiad o Boblogaeth a Thai yng Nghymru a Lloegr 2021, wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth y DU heddiw, 14 Rhagfyr 2018. Mae'r Papur Gwyn yn nodi cynigion manwl Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer Cyfrifiad 2021 yng Nghymru a Lloegr.

Cynigir y dylid cynnal y cyfrifiad nesaf o’r boblogaeth yng Nghymru a Lloegr ar 21 Mawrth 2021, yn amodol ar gymeradwyaeth Senedd y DU.

Defnyddir data o'r Cyfrifiad i wneud penderfyniadau sy'n cael effaith ar bawb yn y wlad. Mae data o ansawdd uchel ynghylch y boblogaeth yn llywio'r broses o lunio polisïau, yn cynorthwyo'r gwaith o ddyrannu adnoddau a chynllunio gwasanaethau cyhoeddus ac yn ein helpu i ddeall bywydau gwahanol grwpiau yn ein cymdeithas, gan gefnogi ein gwaith i greu Cymru sy'n fwy cyfartal. Mae busnesau, awdurdodau lleol, awdurdodau iechyd, ac eraill yn gwneud defnydd helaeth o ddata'r Cyfrifiad. Yng Nghymru, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol wedi cynyddu'r angen am ddata o ansawdd uchel i gefnogi asesiadau llesiant lleol.

Mae'r gwaith dylunio ar gyfer y cyfrifiad newydd yn adeiladu ar y cyfrifiad diwethaf yn 2011, ac yn rhoi ystyriaeth i anghenion newidiol cymdeithas. Mae'r Papur Gwyn yn gosod nodau strategol ar gyfer y cyfrifiad, yn egluro pam fod ei angen, yn nodi'r cynnwys a sut y bydd yn cael ei gynnal ac mae'n ymdrin â materion budd y cyhoedd fel diogelwch data a chyfrinachedd. Mae'r Papur Gwyn hefyd yn nodi cynigion Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar gyfer dyfodol ystadegau poblogaeth ar ôl 2021.

Mae’r Papur Gwyn yn amlinellu argymhellion Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig ar gyfer cynnwys Cyfrifiad 2021 a’r modd y caiff ei gynnal. Ar sail gwaith ymgysylltu a wnaed â defnyddwyr maent yn argymell defnyddio’r un cynnwys â Chyfrifiad 2011 gyda’r eithriadau canlynol:

  • Cwestiynau newydd ynghylch y canlynol:
    • Cyfeiriadedd rhywiol
    • Hunaniaeth o ran rhywedd
    • Gwasanaeth blaenorol gyda’r Lluoedd Arfog
  • Hepgor cwestiynau ynghylch y canlynol:
    • Y flwyddyn olaf y bu’r sawl oedd yn ateb yn gweithio
    • Nifer yr ystafelloedd yn y cartref, ar y sail bod ffynonellau gwahanol i’r ddau
  • ‘Blwch ticio’ ychwanegol ar gyfer Roma yn y cwestiwn ar ethnigrwydd

Mae Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig hefyd yn argymell defnyddio cyfrifiad ar-lein yn bennaf gan gynnig amryw o wahanol fathau o gymorth i’r cyhoedd. Er hynny, maent hefyd yn cydnabod na fydd pawb yn gallu llenwi’r Cyfrifiad ar-lein na chwaith yn dewis gwneud hynny felly maent wedi nodi eu bwriad y bydd ffurflenni papur ar gael yn hawdd hefyd.

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig yn bwriadu cynnal ymarfer ar gyfer y cyfrifiad mewn ardaloedd yng Nghymru a Lloegr ym mis Hydref 2019.

Fel ag yn achos Cyfrifiad 2011, fe ymgynghorir â Gweinidogion Cymru ar Orchymyn y Cyfrifiad yn ystod 2019 a byddant yn gyfrifol am wneud Rheoliadau’r Cyfrifiad i Gymru yn 2020. Byddwn felly yn gofyn i chi ystyried cynnwys y Papur Gwyn i’ch cynorthwyo gyda’r gwaith craffu yn y dyfodol a hefyd er mwyn sicrhau bod unrhyw broblemau a allai godi'n cael eu hystyried yn gynnar yn y broses.

Mae fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r Swyddfa Ystadegau Gwladol ar y paratoadau ar gyfer y Cyfrifiad nesaf. Byddant yn gweithio ochr yn ochr â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol i sicrhau bod Rheoliadau’r Cyfrifiad i Gymru yn cael eu drafftio a'u datblygu ynghyd â'r Rheoliadau i Loegr.

Mae'r Papur Gwyn wedi cael ei osod ger bron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a gellir ei weld yma: https://www.gov.uk/government/publications/the-2021-census-of-population-and-housing-in-england-and-wales