Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Ionawr 2019
Diweddarwyd diwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Rwy’n gwneud y datganiad hwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa bresennol mewn perthynas â phwysau'r gaeaf ar draws ein system iechyd a gofal.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod cryn dipyn o waith paratoi ar gyfer y gaeaf wedi digwydd ledled Cymru ac ar draws ffiniau sefydliadol, a bod y gwaith cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn wedi dechrau yn syth ar ôl i gyfnod gaeaf 2017/18 ddod i ben.

Mewn cydweithrediad â GIG Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid eraill, rydym wedi dysgu gwersi o'r gaeafau diwethaf i wella prosesau cynllunio, ac ar ôl gwerthuso gaeaf 2017/18 mae mwy o gydnabyddiaeth bod angen arweiniad a chefnogaeth genedlaethol. Yn y cyd-destun hwn penderfynais ddarparu £35m o gyllid ychwanegol i gefnogi'r GIG a phartneriaid gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gynharach yn y flwyddyn ariannol bresennol i sicrhau bod timau iechyd a gofal lleol mor barod â phosib ar gyfer y gaeaf.

 

Rydym wedi dweud yn agored i’r gaeaf diwethaf fod yn eithriadol o anodd, gyda lefelau'r galw yn annisgwyl o uchel ar adegau gan effeithio ar allu gwasanaethau i reoli a dygymod, a'r perfformiad yn erbyn rhai dangosyddion allweddol yn dirywio.

Rwyf wedi cael fy nghalonogi wrth weld bod lefelau uwchgyfeirio mewn ysbytai ar draws Cymru wedi bod yn gyffredinol is dros gyfnod yr ŵyl, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.  Gwelwyd llai o safleoedd wedi'u huwchgyfeirio i'r lefel uchaf, a llwyddodd y rhai dan bwysau uwch i is-gyfeirio yn gynt, sy'n arwydd bod gwasanaethau rheng flaen yn fwy cadarn.

Mae pwysau ar y gwasanaeth drwy gydol y flwyddyn, ac fe ddylai'r heriau sy'n wynebu staff rheng flaen dros y gaeaf gael eu gweld yng nghyd-destun pwysau parhaus a di-baid dros y misoedd diwethaf. Gwyddom hefyd bod mannau penodol dan bwysau arbennig yn lleol ac y bydd y pwysau yn parhau wrth i'r tymheredd syrthio ac wrth i dymor y ffliw barhau.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cadarnhau bod tymor y ffliw wedi dechrau. Ar hyn o bryd mae'r lefelau yn isel, ond yn cynyddu, ac mae'r dystiolaeth glinigol yn awgrymu y gallwn ddisgwyl gweld cynnydd pellach yn y nifer sy'n ymweld â meddygfeydd ac Adrannau Brys am gyflyrau anadlol dros yr wythnos neu ddwy nesaf yn dilyn y tywydd oer diweddar.

Ers mis Mawrth 2018, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i ragweld nifer y bobl sy'n debyg o ddefnyddio gwasanaethau'r Adrannau Brys dros y gaeaf, yn ogystal â nifer y cleifion fydd angen eu derbyn i'r ysbyty fel achos brys. 

Mae gwybodaeth reoli'r GIG yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl wedi cael eu hasesu, eu trin a'u derbyn neu ryddhau o fewn pedair awr hyd yma dros y gaeaf. Fodd bynnag, mae gwybodaeth reoli'r GIG hefyd yn dangos cyfnod anodd dros y gwyliau i staff Adrannau Brys o gymharu â phum mlynedd yn ôl:

  • Gwelwyd 14% o gynnydd yn y nifer aeth i'r Adrannau Brys dros yr ŵyl (22 - 29 Rhagfyr 2018) o gymharu â’r un cyfnod pum mlynedd yn ôl
  • Roedd derbyniadau brys cleifion o'r Adrannau Brys i welyau ysbyty 9% yn uwch dros yr ŵyl o gymharu â’r un cyfnod pum mlynedd yn ôl
  • Gwelwyd cynnydd o 13% mewn derbyniadau brys ymysg pobl dros 85 oed o gymharu â’r un cyfnod pum mlynedd yn ôl.

Daw hyn ar adeg pan fo gwasanaethau gofal sylfaenol yn adrodd am bwysau arnynt, gyda'r Meddygon Teulu a'r gwasanaethau gofal sylfaenol ar draws Cymru yn adrodd am fwy o alw am apwyntiadau dros yr ŵyl o gymharu â'r un cyfnod llynedd. 

Mae'r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi cael mwy o alwadau yn y categori oren yn arbennig. Mae gwybodaeth reoli'r GIG yn awgrymu bod nifer y galwadau am wasanaethau ambiwlans ym mis Rhagfyr 2018 ar ei uchaf ers i'r model ymateb clinigol newydd gael ei gyflwyno dros dair blynedd yn ôl.

Er gwaetha'r pwysau hwn, mae gwybodaeth reoli Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn awgrymu bod y perfformiad wedi'i gynnal uwchlaw'r targed cenedlaethol ar gyfer digwyddiadau lle mae bywyd yn y fantol. Yn galonogol iawn, adroddwyd hefyd am ostyngiad sylweddol mewn oedi wrth drosglwyddo cleifion o ofal ambiwlans dros yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Mae wedi bod yn gyfnod anodd i staff y rheng flaen, ac mae hynny'n parhau. Diolch i'w hymroddiad mae'r mwyafrif llethol yn derbyn ymateb proffesiynol a gofal amserol yn unol â disgwyliadau'r cyhoedd.

Rwyf hefyd yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am un o'r mentrau ychwanegol sydd wedi'u cynllunio i gefnogi pobl a staff y gaeaf hwn. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Groes Goch Brydeinig wedi'i chomisiynu i ddarparu cynlluniau'r gaeaf mewn wyth o ysbytai ar draws Cymru, gyda'r bwriad o helpu cleifion a staff mewn Adrannau Brys. Bwriad arall y cynllun yw cludo cleifion perthnasol adref, a'u helpu i setlo drwy brynu bwyd, galw i gadw llygad ar eu lles a chysylltu â gwasanaethau cymunedol.

Rwy'n falch o ddweud bod timau'r Groes Goch eisoes wedi helpu dros 2500 o bobl ers cyflwyno'r cynlluniau ganol Rhagfyr, gyda'r cleifion a'r gofalwyr yn cael cymorth mewn Adrannau Brys a dwsinau o bobl hŷn, agored i niwed yn cael eu setlo yn y cartref, gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty.

Mae’r arwyddion cychwynnol yn dangos bod cynllunio trylwyr wedi cyfrannu at fwy o gadernid hyd yma dros y gaeaf, er gwaetha’r cynnydd yng ngweithgarwch y gwasanaeth ambiwlans, presenoldeb mewn Adrannau Brys a derbyniadau brys ymysg cleifion hŷn o gymharu â’r blynyddoedd blaenorol, ond rydym yn gwybod bod y pwysau yn dechrau cynyddu ar wasanaethau ar draws y system.

Mae cyfleoedd pellach i gryfhau ymateb a darpariaeth leol drwy neilltuo cyllid ychwanegol yn ystod y cam cynnar hwn o gyfnod y gaeaf. Rwyf felly wedi cytuno i ddarparu cyllid ychwanegol o hyd at £4m o fuddsoddiad newydd i GIG Cymru i gefnogi mentrau a fydd yn ychwanegu gwerth, gan wella profiad y claf, canlyniadau clinigol a llesiant staff drwy gydol y gaeaf. Bydd yr arian yn dod o gyllideb ganolog bresennol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac yn golygu bod byrddau iechyd yn gweithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Awdurdodau Lleol a phartneriaid trydydd sector i drin a gofalu i ateb y galw a’r angen cynyddol ar draws ein system.

Bydd swyddogion yn parhau i fonitro'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a chydweithio â GIG Cymru a sefydliadau partner i geisio sicrwydd am brydlondeb ac ansawdd y gofal dros y gaeaf.