Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o gael cyhoeddi fy mod wedi penderfynu datblygu'r system olrhain amlrywogaeth gyntaf i Gymru. 

Drwy gyfuno'r systemau gwahanol ar gyfer gwartheg, defaid a moch, byddwn yn bodloni gofynion Ewropeaidd ac felly yn helpu i sicrhau bod masnach yn gallu parhau ar ôl Brexit. Bydd hefyd yn gwella'n gallu i olrhain anifeiliaid pan ddaw clefydau i’r amlwg a bydd yn rhoi cyfle pwysig i ddiwydiant cig coch Cymru ddefnyddio'r data gwell a fydd ar gael er budd ffermwyr  a'r gadwyn gyflenwi ehangach. 

Ar ôl ystyried yr opsiynau'n fanwl, rwyf wedi penderfynu mai'r ffordd orau o sicrhau ateb ymarferol i Gymru yw mynd ati i adeiladu ar gronfa ddata EIDCymru, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn. Wrth wneud y penderfyniad hwn, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion barhau i gydweithio'n agos â gweinyddiaethau eraill y DU er mwyn sicrhau bod modd trosglwyddo data'n hwylus rhwng y systemau sydd gan bob ohonynt fel y bo modd olrhain i’r graddau mwyaf posibl.

Bydd fy swyddogion yn cydweithio'n agos â Defra a'r Rhaglen Gwybodaeth am Dda Byw er mwyn sicrhau, i’r graddau y bo hynny’n bosibl, bod y gwaith o ddatblygu'n systemau gwahanol yn mynd rhagddo ar yr un pryd, a bod y broses o drosglwyddo'r trefniadau hysbysu sy'n rhan o systemau presennol Prydain ar gyfer olrhain gwartheg a moch yn cael ei rheoli'n effeithiol.

Mae'n hanfodol bod ein system amlrywogaeth yn cael ei darparu ar blatfform a fydd ar gael yn hwylus i ffermwyr ac o farchnadoedd da byw a lladd-dai, a'i bod yn system hawdd i'w defnyddio a fydd yn adeiladu ar lwyddiant EIDCymru. Er mwyn sicrhau hynny, bydd fy swyddogion yn parhau i gydweithio'n agos iawn â'r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw, sydd wedi cynnig arbenigedd a chyngor hynod werthfawr. 

Y flaenoriaeth yw trosglwyddo'r system olrhain gwartheg o ddechrau 2020 ymlaen. Byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ffurfiol yn y Flwyddyn Newydd ar ddiweddaru'r system Adnabod Gwartheg a Chofnodi Symudiadau. Bydd hefyd yn ymdrin â’r gofynion ar gyfer EID Gwartheg. Byddaf yn mynd ati'n rheolaidd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau wrth i'r gwaith hwnnw fynd rhagddo.

Rwyf wedi penderfynu datblygu system ar gyfer Cymru oherwydd fy mod yn gwybod bod gan Gymru hanes ardderchog o gydweithio i ddatblygu systemau llwyddiannus sy'n cyflawni dros Gymru.