Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, cyhoeddwyd cynigion Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, a heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol ar gyfer 2019-20. Mae'r Setliad hwn yn nodi'r dyraniadau cyllid refeniw craidd ar gyfer pob un o'r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth wedi sicrhau, unwaith eto, fod yr awdurdodau lleol yng Nghymru'n cael gwybodaeth fanwl a chadarn am eu cyllid heb ei neilltuo oddi wrth Lywodraeth Cymru cyn gynted â phosibl i'w cefnogi wrth gynllunio eu gwasanaethau a'u cyllidebau. 

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rhoddwyd ystyriaeth ofalus i'r ymatebion a ddaeth i law i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 20 Tachwedd.  Mae'r cyhoeddiad hwn yn darparu sylfaen gadarn i gynghorau fynd ati i lunio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Mae'r penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud fel rhan o'r gyllideb gyffredinol yn rhoi setliad realistig i lywodraeth leol yn erbyn cefndir yr hinsawdd ariannol sydd ohoni ac un sydd yn well na'r setliad dangosol a gymeradwywyd yn y gyllideb ddiwethaf.

O'i gymharu â'r setliad dros dro a gyhoeddwyd ym mis Hydref, mae'r setliad terfynol ar gyfer 2019-20, yn cynnwys swm ychwanegol o £23.6 miliwn o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru.  Mae hyn yn cynnwys y dyraniadau ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd, ynghyd â chyllid i gynyddu'r terfyn cyfalaf ar gyfer gofal preswyl ac i ddarparu cynlluniau lleol ar gyfer rhyddhad ardrethi.

Roedd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 20 Tachwedd yn darparu ar gyfer £13 miliwn yn ychwanegol ar gyfer setliad llywodraeth leol ac ymrwymiad i ddarparu cyllid ychwanegol o £1.2 miliwn i ddarparu terfyn isaf gwell ar gyfer y setliad, fel na fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5% yn ei ddyraniad cyllid craidd dros y flwyddyn gyfredol.

Fel y nodir yn llythyr y Prif Weinidog at Arweinwyr yr awdurdodau lleol, rhaid i'r pecyn cyllido gwell hwn gael ei gyplysu gan ymrwymiad gan yr awdurdodau lleol i weithio rhanbarthol, er enghraifft gyda byrddau iechyd a'r consortia addysg, i sicrhau canlyniadau gwell a mwy o gadernid, ac ymrwymiad newydd i ysbryd a llythyren telerau ac amodau'r Gweithgor Llywodraeth Leol.

Ar 10 Rhagfyr, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid estyniad o gynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr yn 2019-20, gan gynnwys £2.4m, a ddyrennir i'r awdurdodau lleol trwy setliad llywodraeth leol, i ddarparu rhyddhad ardrethi disgresiynol ychwanegol er mwyn i fusnesau lleol a thalwyr ardrethi eraill ymateb i faterion lleol penodol.

Ar 18 Rhagfyr cyhoeddodd y Llywodraeth gynnydd pellach o Ebrill 2019 yn swm y cyfalaf y gall pobl ei gadw heb orfod ei ddefnyddio i dalu am eu gofal preswyl.  Mae hyn yn cwblhau cam terfynol cyflawni ymrwymiad y Llywodraeth hon i Symud Cymru Ymlaen i godi'r terfyn cyfalaf wrth godi tâl am ofal preswyl i £50,000 ddwy flynedd cyn yr amserlen arfaethedig. Yn ogystal â'r cyllid sydd wedi'i ddarparu hyd yn hyn i lywodraeth leol ar gyfer y codiadau blaenorol yn y terfyn ar gyfer y terfyn cyfalaf, mae’r setliad hwn i lywodraeth leol hwn yn cynnwys swm pellach o £7 miliwn y flwyddyn, yn gylchol, ar gyfer y newid hwn.

Mae’r dyraniadau ychwanegol hyn yn golygu bod y setliad terfynol yn gynnydd bach mewn arian parod yn gyffredinol, o'i gymharu â 2018-19, sy'n cyfateb i gynnydd o 2018% ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau.

Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn golygu fy mod wedi gallu diwygio ymhellach y  trefniadau ar gyfer yr isafswm cyllid fel na fydd unrhyw awdurdod yn awr yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.3% o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol ar sail tebyg at ei debyg. Mae'r trefniant hwn yn cael ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac yn sicrhau y bydd y pum awdurdod ar y cyllid gwaelodol ar eu hennill o ganlyniad i'r dyraniadau ychwanegol hyn.

Y Setliad heb ei neilltuo yw'r ffynhonnell fwyaf o gyllid sydd ar gael i awdurdodau, ond nid dyma'r unig ffynhonnell. Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwyf yn disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau cyllido sydd ar gael iddynt ac ystyried yn ofalus hefyd sut i sicrhau’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau'n effeithiol ac yn effeithlon. Rydym yn cynnig tipyn o hyblygrwydd i awdurdodau arfer ymreolaeth ac i gymryd cyfrifoldeb dros reoli eu harian. 

Ochr yn ochr â'r Setliad, rwyf yn cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynllunio ar 2019-20.  Bydd hyn o gymorth i'r awdurdodau lleol wrth baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. 

Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad terfynol Cyllid Allanol Cyfun (gan gynnwys grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosberthir) rhwng y 22 cyngor ar gyfer 2019-20.

Bydd angen i'r awdurdodau lleol fuddsoddi hefyd mewn seilwaith a thrawsnewid.  Roedd y gyllideb a gyhoeddwyd ddoe yn darparu ar gyfer cyfalaf ychwanegol o £100m ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, £50m yn 2018-19, £30m yn 2019-20 a £20m yn 2020-21. Mae hyn yn ychwanegol at y cyfalaf ar gyfer atgyweirio priffyrdd a gyhoeddwyd yn y gyllideb ddrafft.  O ganlyniad, £541 miliwn yw cyfanswm y cyllid  ar gyfer 2019-20.  O fewn hyn, bydd Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2019-20 yn £193 miliwn (gan gynnwys £20 miliwn ar gyfer grant atgyweirio priffyrdd cyhoeddus) a £183 miliwn yn 2020-21.

Bwriedir trafod y cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2019-20 ar 15 Ionawr 2019.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull byddwn yn falch o wneud hynny.