Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru yn 2019-20. Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd dros dro ar gyfer pob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Gan nad yw plismona wedi’i ddatganoli, bydd trefniant tair ffordd i’r cyllid ar gyfer heddluoedd Cymru, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref unwaith eto wedi penderfynu defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cynnydd yn y cyllid a dderbyniant o 2.1% ar gyfer 2019-20 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2018-19.

Bydd y cyfanswm cymorth i heddluoedd yng Nghymru yn £357.3 miliwn. O fewn y swm hwn, rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2019-20 yn £143.4 miliwn. Mae cyhoeddiad heddiw’n nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 10 Ionawr 2019. Yn dilyn hyn, gall dyraniadau gael eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Nid yw’r cyfrifoldeb dros blismona yn fater sydd wedi’i ddatganoli ar hyn o bryd. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gredu mewn datganoli’r gwasanaeth cyhoeddus pwysig hwn, ac yn dadlau dros wneud hynny. Mae polisi Llywodraeth y DU o gyni cyllidol wedi gorfodi toriadau sylweddol o ran arian parod ac mewn termau real i gyllid yr heddlu dros y 9 mlynedd ddiwethaf. Nid yw’r cyllid a ddarperir ar gyfer y Setliad hwn yn dadwneud y blynyddoedd o ddarpariaeth annigonol er mwyn galluogi heddluoedd i gynnal y lefelau presennol o wasanaeth. Bydd yn ofynnol i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru felly wneud penderfyniadau anodd wrth bennu lefel eu praesept y Dreth Gyngor. Canlyniad hyn fydd effaith anghymesur ar dalwyr y Dreth Gyngor sy’n ei chael yn fwyfwy anodd i dalu eu biliau. Mater i’r Swyddfa Gartref yw dosbarthu cyllid rhwng ardaloedd heddluoedd, ond rwyf i o’r farn y bydd heddluoedd yng Nghymru yn siomedig nad yw’r Setliad arfaethedig yn cefnogi plismona mewn ardaloedd gwledig nac yn ystyried y cyfrifoldebau ychwanegol sydd ynghlwm wrth blismona prifddinas Cymru.

Rwy’n dal i gredu mai datganoli’r maes plismona i Lywodraeth Cymru yw’r cam angenrheidiol nesaf.

Cyllid Refeniw yr Heddlu

Tabl 1: Cyllid allanol cyfun (RSG+NNDR, £m)

  2016 i 2017 2017 i 2018 2018 i 2019 2019 i 2020
Dyfed-Powys 12.895 12.870 13.101 13.355
Gwent 30.107 30.583 31.083 31.701
Gogledd Cymru 21.578 21.907 22.122 22.496
De Cymru 72.177 73.341 74.594 75.848
Cyfanswm 136.757 138.700 140.900 143.400

Tabl 2: Grant yr Heddlu a chyllid gwaelodol (£m)*

  2016 i 2017 2017 i 2018 2018 i 2019 2019 i 2020
Dyfed-Powys 37.117 36.443 36.212 36.993
Gwent 42.393 40.904 40.404 41.287
Gogledd Cymru 51.167 49.821 49.606 50.738
De Cymru 87.463 84.066 82.812 84.864
Cyfanswm 218.140 211.234 209.034 213.882

* Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 Adroddiad Grant yr Heddlu, sy'n cynnwys y dyraniad o dan 'Prif Fformiwla' a 'Ychwanegu rheol 1' (colofnau a a b) plws swm y 'cyllid gwaelodol' y mae’r Swyddfa Gartref wedi’i sicrhau sydd ar gael.

Tabl 3: Cyfanswm cymorth canalog (£m)

  2016 i 2017 2017 i 2018 2018 i 2019 2019 i 2020
Dyfed-Powys 50.012 49.313 49.313 50.348
Gwent 72.501 71.487 71.487 72.988
Gogledd Cymru 72.745 71.728 71.728 73.234
De Cymru 159.639 157.407 157.407 160.712
Cyfanswm 354.897 349.934 349.934 357.282