Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams AC, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Colegau Cymru a’r Cyfarwyddwyr Esgobaethol.  Fel rhan o’r cylch buddsoddi cyntaf, sy’n dod i ben ym mis Mawrth 2019, bydd mwy nag £1.4 biliwn wedi cael ei fuddsoddi yn cefnogi’r gwaith o ailadeiladu ac adnewyddu mwy na 160 o ysgolion a cholegau ledled Cymru.  Bydd ail gylch buddsoddi’r Rhaglen yn dechrau ym mis Ebrill eleni a bydd yn chwarae rhan bwysig yn codi safonau addysg ar draws Cymru, yn unol â’n cenhadaeth genedlaethol.

Fel gyda'r cylch cyntaf o fuddsoddiad, bydd yr ail gyfran yn cael ei hariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac eraill.  Bydd y rhan fwyaf o'r Rhaglen yn cael ei hariannu drwy gyllidebau cyfalaf, gyda buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn cael ei ariannu drwy’r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC). 

Ffordd arloesol o fuddsoddi mewn seilwaith cyhoeddus yw'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MBC).   Cafodd MBC ei ddatblygu gan Lywodraeth Cymru i ariannu prosiectau cyfalaf mawr oherwydd prinder arian cyfalaf.  Mae’n cadw elfennau gorau model yr Alban nad yw’n dosbarthu elw, ond yn sicrhau hefyd fod y buddsoddiad yn cael ei briodoli i’r sector preifat a’i fod felly yn ychwanegol at fuddsoddi sy’n cael ei ariannu o gyllidebau cyfalaf.

Gall partneriaethau da gyda’r sector preifat, yn cael eu cynllunio a’u rheoli’n dda i ddarparu seilwaith cyhoeddus, gynnig gwerth da am arian.  Mewn buddsoddiad cyfalaf traddodiadol mae’r sector preifat yn dylunio ac adeiladu seilwaith cyhoeddus.  Mewn cynlluniau MBC bydd y sector preifat yn dylunio, adeiladu, ariannu a chynnal a chadw seilwaith cyhoeddus.  Bydd y gofyniad i ariannu cynlluniau MBC yn golygu bod Llywodraeth Cymru’n darparu asedau’n llawer cynt nag a fyddai’n digwydd fel arall, a bydd y gofyniad i gynnal a chadw'r asedau hyn yn sicrhau eu bod yn dal mewn cyflwr priodol i’w defnyddio ar ddiwedd cyfnod y contract ac na fydd angen darparu asedau yn eu lle yn gynt na'r disgwl.

Y lefel wreiddiol o gymorth grant i gynlluniau cyfalaf oedd 50%.  Fodd bynnag, ym mis Tachwedd y llynedd, ar ôl gwrando ar bryderon ein partneriaid cyflenwi am y pwysau ar eu cyllidebau, cyhoeddais y byddai cyfradd ymyrraeth grant Llywodraeth Cymru i gynlluniau cyfalaf yn codi o 50% i 65% o’u cost.  Cyhoeddais hefyd gynnydd i 75% ar gyfer cynlluniau sy’n effeithio ar y disgyblion mwyaf agored i niwed mewn cyfleusterau i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai mewn unedau cyfeirio disgyblion. 

Ers y newid hwn i’r gyfradd ymyrraeth rwyf wedi gwrando ar bryderon partneriaid cyflenwi ynglŷn â gwerth cymharol MBC a chynlluniau a ariennir gan gyfalaf ac rwy’n awgrymu cynyddu’r gyfradd ymyrraeth MBC i 81% fel ei bod yn debyg i’r gyfradd ymyrraeth ar gyfer cyfalaf. Bydd hyn yn golygu bod y rhaglen MBC yn fwy fforddiadwy i'r Awdurdodau Lleol a’r Sefydliadau Addysg Bellach sydd am gymryd rhan ynddi.

Credaf y bydd y newid hwn yn nhrefn ariannu Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ychwanegol gwerthfawr i’n partneriaid cyflawni yn y cyfnod hwn o lymder ariannol.  Bydd yn help hefyd inni gyrraedd ein nod o greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy ar draws Cymru sydd hefyd yn darparu ar gyfer anghenion ehangach ein cymunedau.