Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyhoeddi prosbectws Parc Rhanbarthol y Cymoedd ym mis Hydref a'm Datganiad Llafar ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni ar 27 Tachwedd, gallaf gyhoeddi bellach y bydd Parc Coffa Ynysangharad (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf), Parc Bryn Bach (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent), a Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Parc Slip (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont/ Ymddiriedolaeth bywyd gwyllt o De a Gorllewin Cymru) hefyd yn cael eu datblygu’n safleoedd Pyrth Darganfod, a bydd Gwarchodfa Natur a Chanolfan Ymwelwyr Bywyd Gwyllt Parc Slip yn gweithio'n agos â Pharc Gwledig Bryngarw fel porth rhanbarthol ar gyfer Cymoedd Ogwr, Garw a Cymoedd Llynfi.

Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, Coedwig Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth y Byd Blaenafon, Parc Cyfarthfa a Pharc Gwledig Bryngarw yn Byrth Darganfod.

Yn ogystal, mae gwaith yn parhau gyda Chynghorau Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chaerffili i ddatblygu cynlluniau ar gyfer dau safle arall yn eu hardaloedd nhw. Rwyf hefyd eisiau ystyried opsiynau pellach ar gyfer safle yng Nghwm Tawe Uchaf.

Bydd swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol y Cymoedd a gweithredwyr y safleoedd dros y misoedd nesaf i asesu cryfderau a gwendidau pob safle, gyda golwg ar roi cynlluniau datblygu yn eu lle. Bydd y rhain yn sicrhau gwelliannau er mwyn darparu cyfleusterau o ansawdd uchel a chryfhau profiad yr ymwelwyr, yn ogystal â gwella'r llwybrau eiconig sy'n cysylltu'r cymoedd â'i gilydd. Caiff y cynlluniau hyn eu cefnogi gan y cyllid cyfalaf gwerth £7m, dros ddwy flynedd, a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yng Nghyllideb drafft 2019-20.

Mae'r safleoedd hyn mewn lleoliadau da ar draws y Cymoedd, a byddant yn adrodd hanes y Cymoedd ac yn cydweithio i'w cysylltu fel rhanbarth. Bydd y Pyrth Darganfod yn defnyddio ein treftadaeth ddiwylliannol a diwydiannol cyfoethog ni.