Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, byddaf yn lansio Pwysau Iach: Cymru Iach a fydd yn amlinellu ein huchelgais genedlaethol i atal a lleihau lefelau gordewdra ledled Cymru. Dyma un o ymrwymiadau allweddol Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac mae'r ymgynghoriad yn nodi nifer o gynigion allweddol rydym am eu trafod a'u profi gydag amrywiaeth o randdeiliaid a chymunedau ledled Cymru. Mae'r ymgynghoriad wedi cael ei ddatblygu ar draws pedair prif thema sef arweinyddiaeth a newid, amgylchedd iach, lleoliadau iach a phobl iach. Byddaf yn gwneud datganiad i'r siambr yn fuan.