Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hoffwn hysbysu Aelodau o ganlyniad y proses diweddar i benodi aelodau newydd i Gyngor Partneriaeth y Gymraeg. Sefydlwyd y Cyngor gan Adran 149 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a’i brif bwrpas yw rhoi cyngor ac arweiniad i Weinidogion Cymru mewn perthynas â materion yn ymwneud â’r Gymraeg. Daeth cyfnod y Cyngor Partneriaeth cyntaf i ben ar 31 Mawrth 2017 ac rwyf yn ddiolchgar iawn i’r aelodau hynny am eu cefnogaeth, yn enwedig yn ystod y broses o baratoi strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg sydd i’w gyhoeddi yn fuan.

Roeddwn yn fodlon iawn gyda’r ymateb cadarnhaol cafwyd i’r broses benodi. Roedd safon yr ymgeiswyr, a’r amrediad o arbenigedd yn eithriadol o uchel, ac nid oedd y penderfyniad o bwy i benodi yn un hawdd. Rwyf felly wedi penodi 10 aelod, ac rwyf yn ddiolchgar iddynt am dderbyn y gwahoddiad i wasanaethu ar y Cyngor Partneriaeth. Bydd yr aelodau newydd yn dechrau ar 1 Gorffennaf 2017 am gyfnod o dair blynedd. Aelodau’r Cyngor newydd yw: Simon Brooks, Owen Derbyshire, Rhian Huws-Williams, Dewi Jones, Gwion Lewis, Angharad Lloyd-Williams, Rhodri Llwyd Morgan, Gwynedd Parry, Enlli Thomas, a Marian Thomas.

Rwyf yn hyderus bod ganddynt y profiad a’r arbenigedd sydd angen i gefnogi fi a fy swyddogion i weithredu 3 mlynedd gyntaf y strategaeth newydd. Rwy’n disgwyl ymlaen i gydweithio gyda nhw.