Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AC, Arweinydd y Tŷ a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod 2018, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn datblygu cyfres o Ddangosyddion Cenedlaethol i Gymru gyda chymorth Cynghorwyr Cenedlaethol ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) a rhanddeiliaid allanol arbenigol yn y sector VAWDASV. Diben y dangosyddion yw mesur cynnydd yn erbyn diben Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (y Ddeddf).

Hoffwn gyhoeddi y bydd yr ymgynghoriad ffurfiol ar y Dangosyddion Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, fel sy’n ofynnol o dan adran 11 o’r Ddeddf, yn fyw ar wefan Llywodraeth Cymru yn ystod y toriad.