Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi manylion ein trefniadau Gwerthuso a Gwella drafft. Mae’r pecyn cydlynol hwn o fesurau wedi’i lunio ar y cyd â’r proffesiwn a’r system ehangach. Bydd y trefniadau hyn yn gymwys i ysgolion, awdurdodau lleol, consortia ac, yn wir, i Lywodraeth Cymru.

Yr Achos dros Newid

Mae consensws dros newid. Rydym i gyd yn derbyn nad yw’r model presennol yn gweithio cystal ag y dylai. Mae’n seiliedig ar gwricwlwm a dysgu sy’n rhy gul, anhyblyg a gorlawn.

Mae ysgolion uwchradd yn arbennig wedi’u gorfodi i ganolbwyntio ar geisio cael disgyblion i ‘basio’ nifer fechan o gymwysterau, yn hytrach na darparu addysg eang a chytbwys sy’n cefnogi cynnydd pob dysgwr.

Mae Pob Plentyn yn Cyfrif

Yn ein system ddiwygiedig, bydd pob plentyn yn cyfrif a bydd ysgolion yn cael eu gwerthuso yn ôl y gwahaniaeth a wnânt i gynnydd pob plentyn. Bydd hyn yn helpu ysgolion ganolbwyntio ar addysgu a dysgu, llesiant disgyblion ac athrawon, a lleihau biwrocratiaeth ddiangen. Bydd ysgolion rhagorol yn gallu gweithio tuag at y nod o sicrhau mwy o ymreolaeth.

Mae hwn yn newid diwylliant. Rydym yn symud o system sy’n seiliedig ar gydymffurfiaeth a biwrocratiaeth i fodel gwerthuso a gwella sy’n fwy cyson â systemau addysg sy’n perfformio’n dda ledled y byd. Mae ein ffocws ar godi safonau a chyraeddiadau i bawb yn parhau’n gyson.

Bydd y newidiadau’n cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o bum mlynedd i roi mwy o gymorth i ysgolion i addasu i’r cwricwlwm newydd tra’n cynnal, a chodi, safonau.

Arolygiaeth Dysgu

Comisiynodd Estyn, gyda fy nghymorth, adolygiad annibynnol o’u rôl yn y dyfodol. Mae ‘Arolygiaeth Dysgu’ wedi gwneud argymhellion ar sut y gellid rhoi ffocws o’r newydd i arolygu i gefnogi gwella safonau. Byddwn yn symud ymlaen nawr gyda’i argymhellion, gan gefnogi Estyn gyda’r diwygiadau hyn.

Mae Arolygiaeth effeithiol yn un sy’n rhoi sicrwydd bod safonau’n cael eu cyrraedd, tra hefyd yn cefnogi ysgolion i gynnal gwelliannau. Dyma yw ffocws y diwygiadau hyn.

Cyn cyflwyno’r cwricwlwm newydd, mae Estyn wedi cytuno i gyfrannu mwy at y gwaith o gefnogi ysgolion i baratoi ar gyfer y newidiadau. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn ymgynghori ar ymestyn y cylch arolygu presennol o 7 i 8 mlynedd er mwyn sicrhau bod arolygiadau ysgolion yn cael eu gohirio’n rhannol ar gyfer 2020-2021. Fodd bynnag, byddai ysgolion sy’n achosi pryder yn parhau i gael eu monitro gan Estyn a bydd arolygiadau yn parhau i gael eu cynnal mewn ysgolion lle mae pryderon wedi’u nodi yn ystod y cyfnod hwn, ynghyd ag arolygiadau o awdurdodau lleol ac ysgolion annibynnol. Er mwyn cefnogi ysgolion sy’n achosi pryder, rwyf wedi gofyn i swyddogion weithio gyda rhanddeiliaid allweddol i gryfhau ein hymagwedd ar y cyd. Bydd y newid hwn yn rhoi’r cyfle hefyd i roi ffocws mawr ei angen ar gefnogi ysgolion sy’n parhau i dangyflawni.

Hyder y Cyhoedd

Byddwn yn dechrau cyflwyno trefniadau arolygu diwygiedig yn raddol o fis Medi 2021. Fodd bynnag, cyn cyflwyno trefniadau newydd, bydd Estyn yn ymgynghori’n llawn â rhanddeiliaid. Mae rhai o’r cynigion y bydd Estyn yn eu hystyried yn cynnwys cael gwared â’r penawdau a ddefnyddir mewn adroddiadau yn nodi dyfarniadau. Fel y mae’r adolygiad yn ei nodi, mae penawdau felly yn gorsymleiddio yn aml iawn, heb roi sylw i’r meysydd sy’n bwysig. Byddai gwerthusiadau manwl o waith ysgol yn cael eu cyflwyno yn hytrach, gan roi gwell gwybodaeth i rieni, llywodraethwyr ac ysgolion ynghylch perfformiad ysgol, ei chryfderau a’r meysydd i’w datblygu. Yn unol â’r nod o sicrhau pwyslais mwy ar ysgolion sy’n tanberfformio, a’u cefnogi, bydd y categorïau Gwelliannau Sylweddol a Mesurau Arbennig yn parhau.

Un o wendidau sylfaenol y trefniadau arolygu presennol yw amlder yr arolygiadau o fewn cylch 7 blynedd. Felly, cynigir y byddai Estyn yn arolygu a dilysu proses hunanwerthuso ysgol fwy nag unwaith o fewn y cylch saith blynedd.

Byddai hyn yn galluogi Estyn i roi sicrwydd yn amlach i rieni a’r gymuned ehangach am y safonau sy’n cael eu cyflawni ac am flaenoriaethau ar gyfer gwelliannau pellach.

Bydd mwy o ffocws ar hunanwerthuso gan ysgolion yn y trefniadau gwerthuso a gwella newydd. Mae Estyn a’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn datblygu, gyda’r proffesiwn, becyn adnoddau hunanwerthuso a fydd yn cael ei ddefnyddio gan ysgolion i sicrhau cysondeb. Bydd angen i’r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion, sy’n nodi lefel y gefnogaeth sydd ei hangen ar ysgolion gan y system i wella, ddatblygu i fod yn broses mwy soffistigedig sy’n edrych ar ystod ehangach o ddangosyddion, fel llesiant disgyblion. Disgwylir i hyn ddatblygu i fod yn broses ddilysu barhaus o’r hunanwerthuso gan yr ysgol a’i blaenoriaethau ar gyfer datblygu.

Cyrff llywodraethu fydd llinell gyntaf atebolrwydd ysgolion o hyd. Mae eu dyletswyddau’n cynnwys monitro perfformiad eu hysgol ac adrodd i rieni. Maent yn hanfodol i lwyddiant Cenhadaeth Ein Cenedl a byddwn yn ymgysylltu â nhw i sicrhau eu bod yn deall y system newydd, a fydd yn cynnwys pecyn hyfforddiant.

Bydd y system gyfan yn symud i gefnogi ysgolion a’u harweinwyr. Law yn llaw â’r consortia rhanbarthol, bydd yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol yn edrych ar ffyrdd ymarferol o gefnogi penaethiaid i addasu i’r system newydd. Ym mis Ebrill, byddwn yn cyhoeddi’r Fframwaith Gwerthuso ac Asesu law yn llaw â drafft y Cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru.

>https://beta.llyw.cymru/trefniadau-gwerthuso-gwella-atebolrwydd