Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â'r datganiad a wnes yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 17 Gorffennaf 2018.  Yn y datganiad hwnnw, fe nodais weledigaeth ac amcanion strategol Gogledd Cymru ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru a heddiw rwyf yn cyhoeddi’r Achos dros Fuddsoddi mewn seilwaith rheilffyrdd sydd wedi cael ei baratoi gan yr Athro Mark Barry.  Mae’n amlwg bod potensial i gyflawni dros £2 biliwn o fanteision economaidd yn sgil rhaglen uchelgeisiol, realistig a theg ar gyfer buddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru.

Nid yw proses gwella piblinellau bresennol yr Adran Drafnidiaeth yn gwneud cyfiawnder â Chymru. Fe wnes i gytuno i ymgysylltu â'r dull newydd i sicrhau buddsoddiad y mae galw enbyd amdano yn ein rhwydwaith rheilffyrdd. Fodd bynnag, roedd hyn yn dibynnu ar Lywodraeth y DU yn defnyddio’r broses i fuddsoddi yn ddi-oed.  Mae’r cynnydd wedi bod yn araf iawn. Hyd yn hyn, nid ydym wedi gweld yr un o'r achosion busnes y gwnaeth Llywodraeth y DU eu haddo i ni y llynedd, does dim cyllid wedi cael ei neilltuo i ddatblygu ymhellach, a does dim eglurder o ran y camau nesaf a’r amserlenni.  Mae hyn yn annerbyniol.  Ni allwn ymgymryd â phroses fiwrocrataidd ddiddiwedd sy’n ymddangos ei bod wedi'i llunio i atal y buddsoddiad y mae ei angen ar frys.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â’n partneriaid, wedi dangos gweledigaeth ac uchelgais i ddatblygu a darparu buddsoddiad yn y rhwydwaith rheilffyrdd a – chyn datganoli’n llawn – mae angen ymrwymiad ariannol priodol arnom gan Lywodraeth y DU i ymgymryd â’r gwaith hwn. Mae’r model hwn wedi cael ei roi ar waith yn llwyddiannus i ddatblygu gwelliannau i reilffyrdd yng Ngogledd Lloegr ac mae’n sicrhau bod cynlluniau yn cyflawni blaenoriaethau lleol, yn bodloni amcanion rhanbarthol, ac yn adlewyrchu nodau strategol ac economaidd cenedlaethol.

Disgwylir y bydd dros £3 biliwn yn cael ei wario ar HS2 yn Lloegr yn ystod y flwyddyn ariannol hon, a'r un faint eto ar wella’r rhwydwaith rheilffyrdd presennol.  Dylid buddsoddi’n sylweddol hefyd i leihau hyd y daith rhwng Llundain ac Abertawe i ddwy awr neu lai.  Byddai setliad datganoli teg i Gymru yn caniatáu i ni ariannu cynlluniau dros y 10 mlynedd nesaf, fel ailagor rheilffyrdd a’u moderneiddio, gan gynnwys trydaneiddio prif reilffyrdd de a gogledd Cymru, a sefydlu gorsafoedd newydd ledled y rhwydwaith.

O ystyried y diffyg cynnydd sydd wedi’i wneud gan Lywodraeth y DU yng nghyswllt datblygu rhaglen o welliannau, nid oes modd i mi gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ffurfiol, ystyrlon eleni. Fodd bynnag, byddwn yn croesawu sylwadau gan Aelodau'r Cynulliad, busnesau a’r cyhoedd ynglŷn â’r Achos dros Fuddsoddi sy’n cael ei gyhoeddi heddiw.