Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 14 Mehefin y llynedd, cyhoeddais ganlyniad ymgynghoriad a oedd yn cynnig y dylai cyfrifoldeb am wasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael eu trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, gan symud ffin y bwrdd iechyd yn unol â hynny.

Fel rhan o'r broses o newid y ffin, ysgrifennodd cadeiryddion y ddau Fwrdd ataf yn cynnig y dylai enwau'r Byrddau gael eu newid i adlewyrchu'r ffiniau daearyddol newydd.  Gofynnais i'r Cadeiryddion ymgysylltu â'u staff a'u rhanddeiliaid wrth ystyried pa enwau fyddai'n briodol.

Mae'r ddau Fwrdd Iechyd wedi ysgrifennu ataf i gadarnhau pa enwau y maent yn eu ffafrio fel rhan o'r trefniadau hyn.  Maent yn cynnig y dylai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn newid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.  Mae hyn yn dilyn gwaith ymgysylltu dwys gan y Byrddau gyda'u rhanddeiliaid a'u staff.  Mae Cadeiryddion y Byrddau wedi cadarnhau y byddai'r newidiadau hyn yn cael eu rhoi ar waith mewn modd a fyddai'n sicrhau'r costau lleiaf posibl.

Rwy'n hapus i gytuno ar yr enwau arfaethedig hyn, ac felly, er mwyn cefnogi'r gwaith parhaus o'u cynllunio, rwy'n cyhoeddi nawr y bydd y newidiadau i'r enwau fel y nodir uchod yn dod i rym o 1 Ebrill ymlaen, ochr yn ochr â throsglwyddo gwasanaethau iechyd ar lefel ehangach yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.