Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Noda Cymraeg 2050, fod yn rhaid “sicrhau bod seilwaith ieithyddol y Gymraeg (geiriaduron, terminoleg, y proffesiwn cyfieithu) yn parhau i ddatblygu ac yn rhan annatod o’r broses o weithredu’r strategaeth”. Mae’r amcan hwn yn perthyn i drydedd thema Cymraeg 2050 sef ‘Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun’.

Mae technoleg yn un elfen o’r gwaith hwn. Dyna pam, ym mis Hydref, y cyhoeddais Gynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg sy’n nodi tri maes penodol i’w datblygu er mwyn i dechnoleg gefnogi’r iaith (technoleg lleferydd Cymraeg, cyfieithu â chymorth cyfrifiadur, Deallusrwydd Artiffisial Sgwrsiol).

Rwyf nawr yn troi fy sylw at seilwaith ieithyddol – mae’r ddau faes yn cydblethu’n naturiol. Mae seilwaith ieithyddol yn cynnwys geiriaduron, adnoddau terminoleg, gweithdrefnau safoni’r orgraff ac enwau lleoedd, corpora (sef casgliadau mawr o destunau print neu recordiadau llafar), a’r proffesiwn cyfieithu.

Mae’r pethau hyn yn gwbl hanfodol: gall seilwaith effeithiol helpu i feithrin hyder pobl a’i gwneud yn bosibl defnyddio’r iaith mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, yn ogystal â chynnal a chodi statws y Gymraeg.

Mae meddu ar yr isadeiledd ieithyddol cywir yn bwysig er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg heb drafferth. Mae’n cynnwys gwneud yn siŵr bod adnoddau cyfieithu digonol ar gael i helpu cyrff i ddiwallu anghenion safonau’r Gymraeg. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gymorth i sicrhau deunyddiau mewn Cymraeg cywir a chyson i aelodau’r cyhoedd, i arbenigwyr fel cyfieithwyr ac i blant ysgol. Heb isadeiledd ieithyddol, fydd dim modd ymateb i’r datblygiadau technolegol diweddaraf yn llawn: corpora ieithyddol sydd yn bwydo llawer o’r rhain. Fel y dywedais yn fy rhagair i’r Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg “Rwy’n ymwybodol bod technoleg yn datblygu’n gyflym. Rwy’n awyddus i’r Gymraeg symud gyda’r dechnoleg.”

Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cymryd y maes o ddifrif. Rydym yn ariannu Geiriadur Prifysgol Cymru, sef geiriadur hanesyddol y Gymraeg, sy’n drysorfa y gellir ei chymharu â’r Oxford English Dictionary yn y Saesneg. Dyma sylfaen yr holl gyfeirlyfrau eraill ar gyfer y Gymraeg e.e. geiriaduron, terminolegau, llyfrau gramadeg, penderfyniadau ar orgraff ac ati. Rydym yn falch o allu parhau i ariannu’r adnodd hollbwysig hwn eleni.

Rydym hefyd eto eleni wedi ariannu Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef yr unig gymdeithas broffesiynol ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg-Saesneg. Mae ein grant i’r Gymdeithas yn bwysig yng nghyd-destun seilwaith a defnydd y Gymraeg.

Ond mae angen gwneud mwy.

Yr hyn sy’n hanfodol nawr yw rhoi cyfeiriad strategol tymor hir i’r maes pwysig hwn a gwella sut mae’r gwahanol elfennau’n asio er budd siaradwyr Cymraeg ym mhobman, ac o bob gallu. Dyna pam, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, fe gynhaliais seminar er mwyn trafod sut mae symud y maes yn ei flaen.

Bryd hynny fe wnes i wrando ar farn pobl, yn ddarparwyr ar y naill law ac yn unigolion sy’n defnyddio’r adnoddau hyn o ddydd i ddydd ar y llaw arall. Eu neges glir oedd bod angen gwell cydlynu rhwng yr holl elfennau er mwyn gwella’r ddarpariaeth i ddefnyddwyr, boed yn aelodau’r cyhoedd, yn gyfieithwyr, yn athrawon neu’n blant ysgol.

Clywais fod angen osgoi dyblygu gwaith, sicrhau bod adnoddau ac arbenigedd yn cael eu defnyddio i’r eithaf, a bod angen ymateb chwim a strategol i wahanol anghenion isadeiledd. Clywais hefyd ei bod yn hollbwysig rhoi’r maes ar sylfaen hirdymor, a rhoi sicrwydd yn y dyfodol i brosiectau seilwaith allweddol.

Rhaid hefyd rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf – a’i gwneud mor hawdd ag sy’n bosibl i bob un ohonom wybod ble yn union y mae troi er mwyn cael gwybodaeth a chyngor o safon.

Dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf, felly, byddwn yn gweithio gyda’r prif randdeiliaid yn y maes er mwyn rhoi hyn ar waith. Fy nod yw gwneud datganiad pellach yn y gwanwyn am y ffordd ymlaen, gan gynnwys pa fath o strwythur a fyddai’n cydlynu’r amrywiol elfennau seilwaith ieithyddol yn effeithiol.

Rwyf yn ddiolchgar iawn hefyd am holl waith staff Comisiynydd y Gymraeg (a, chyn hynny, Bwrdd yr Iaith Gymraeg), yn y maes, sydd wedi gosod sylfaen gadarn i ni symud ymlaen.