Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar 11 Gorffennaf yn amlinellu’r cyfraniad y gall gwasanaethau iechyd y geg a deintyddol ei wneud at gyflawni’r weledigaeth o newid system llwyr a nodir yn Cymru Iachach. Mae’r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am ddiwygio gwasanaethau deintyddol ac ehangu nifer y deintyddfeydd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen.                           

Mae cyfleoedd yn bodoli mewn deintyddiaeth i wireddu trawsnewid cenedlaethol ac mae gennym dystiolaeth o beth sy’n effeithiol o ran gwella iechyd y geg. Mae’r effaith a’r budd o ran effeithlonrwydd sydd wedi’u sicrhau gan ddefnyddio dull a arweinir gan anghenion o ddarparu gofal a sgiliau’r tîm cyfan yn glir. Mae angen rhagor o gynnydd gyda diwygio contractau er mwyn i hyn ddod yn realiti. Mae angen gwell dealltwriaeth o iechyd y geg ar bob lefel er mwyn cyflymu’r newid.   

Mae cynnydd wedi’i wneud gyda gwella a chynnal iechyd y geg i rai grwpiau a chymunedau. Fodd bynnag, ceir heriau o hyd ac, er gwaetha’r ffaith bod modd ei atal i raddau helaeth, mae baich afiechyd deintyddol yn cael effaith niweidiol ar ormod o fywydau yng Nghymru, yn enwedig ymhlith grwpiau agored i niwed a difreintiedig. Mae’n gostus i’r GIG, gall fod yn amhleserus ei drin ac, i rai oedolion ifanc sydd wedi’u heffeithio’n ddifrifol, gall arwain at golli dannedd yn barhaol. Mae mynediad at ofal deintyddol yn parhau’n amrywiol ledled Cymru.            

Rhaid i ni godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd iechyd y geg da a’r cyfraniad y gall ei wneud at iechyd a lles ehangach. Rhaid i ni roi gwybodaeth i gleifion a’r cyhoedd a’u grymuso i werthfawrogi, cynnal a gwarchod iechyd eu ceg, ac iechyd ceg eu dibynyddion. Rydym eisiau i gleifion ddeall sut mae eu dewisiadau’n effeithio ar y tebygolrwydd y byddant yn datblygu afiechyd deintyddol a gwneud dewisiadau gwahanol. Rydym eisiau i dimau deintyddol bersonoli negeseuon allweddol a chyflwyno cyngor cyson i gynorthwyo cleifion i leihau eu risg o afiechyd y geg.        

Yn ychwanegol at roi sylw i elfennau allweddol i gyflawni gwelliannau o ran iechyd y geg, byddwn yn mynd ati i ddiwygio contractau a gweithredu newid. Mae’r rhaglen diwygio contractau wedi ymgorffori dull ‘profi ac addasu’ o weithredu er mwyn dysgu oddi wrth y profiad o beth sy’n gweithio.  

Cyflwynir mwyafrif y mynediad at wasanaethau deintyddol yng Nghymru mewn lleoliadau gofal sylfaenol gan gontractwyr annibynnol – ymarferwyr deintyddol ar y ‘stryd fawr’ gyda chontractau’r GIG. Mae system contractau deintyddol y GIG wedi’i seilio ar ddarparu triniaeth cam hwyrach. Nid yw’n cael ei harwain gan anghenion na’i mesur ar sail canlyniadau. Mae hyn yn golygu nad oes cymhelliant ariannol arwyddocaol ar hyn o bryd i ddeintyddion ganolbwyntio ar atal – i newid i ofal ataliol, defnyddio sgiliau’r tîm cyfan a ‘mynediad’ agored oddi mewn i’r system bresennol.                              

Mae gormod o ddibynnu ar fesurau perfformiad hen-ffasiwn yn gysylltiedig â bandiau triniaeth yn y GIG. Gallai gweithio mewn ffyrdd newydd gael effaith negyddol ar incwm ac, felly, hyfywedd deintyddfeydd heb gefnogaeth weithredol wrth ddiwygio contractau. Mae mesurau’n cael eu datblygu fel rhan o ddiwygio contractau a all asesu sut mae clinigwyr yn mabwysiadu ac yn cadw at arfer a arweinir gan dystiolaeth ac ehangu’r defnydd o gymysgedd sgiliau staff er mwyn rhoi’r arfer hwnnw ar waith.

Os ydym am sicrhau gwell gwerth a chanlyniadau iechyd am y buddsoddiad sy’n cael ei wneud, bydd yr angen mwyaf brys yn cael sylw, a’r effaith fwyaf yn cael ei chyflawni, drwy ddiwygio contractau deintyddol.

Mae dwy ar hugain o ddeintyddfeydd ar draws pob un o’r saith bwrdd iechyd wedi bod yn cymryd rhan yng nghamau cyntaf y diwygio ar gontractau deintyddol. Dechreuwyd casglu data electronig ym mis Mehefin eleni. Hefyd mae gwybodaeth gefnogol i gleifion yn cael ei defnyddio i gyfathrebu’r canfyddiadau yn dilyn asesiad. Mae’r cynlluniau personol hyn yn amlinellu beth mae disgwyl i gleifion ei wneud drostynt eu hunain er mwyn cynnal a gwella iechyd y geg.

Mae gwerthuso cynnar ar y 22 o ddeintyddfeydd wedi galluogi deall risg ac angen. Mae wedi dangos bod cynyddu mynediad, gwella ansawdd ac ymyriadau ataliol yn bosibl. Mae wedi cadarnhau’r dystiolaeth i gefnogi’r cyfeiriad rydym yn mynd iddo ac i gynyddu nifer y deintyddfeydd sy’n cymryd rhan.                        

Yn fy natganiad ym mis Gorffennaf, gofynnais i’r byrddau iechyd a’r proffesiwn deintyddol gefnogi ehangu ar y rhaglen ddiwygio ar fyrder ac i isafswm o 10% o ddeintyddfeydd fod yn cymryd rhan o fis Hydref ymlaen. Rwyf yn falch o ddweud bod yr uchelgais hwn wedi’i wireddu ac, yn wir, rhagorwyd arno, gyda chyfanswm o 53 o ddeintyddfeydd – 1 allan o bob 8 o’r holl ddeintyddfeydd yng Nghymru – yn cymryd rhan yn awr. I gefnogi’r ddarpariaeth, mae cyllid rheolaidd o £350,000 wedi dod ar gael i’r byrddau iechyd.            

Rwyf yn gofyn i fyrddau iechyd a’r proffesiwn deintyddol barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru a diwygio’r contractau ar raddfa gyflymach. Ar gyfer y deintyddfeydd sydd eisoes yn rhan o’r rhaglen, a lle mae data’n cefnogi cam o’r fath, rwyf eisiau gweld byrddau iechyd yn gweithio gyda deintyddfeydd unigol i fynd ymhellach gyda phrofi angen, ansawdd a mesurau canlyniad, gan fabwysiadu egwyddorion gofal iechyd darbodus.

Mae cronfa arloesi wedi cael ei sefydlu i ysgogi gwelliannau a recriwtio gweithwyr gofal deintyddol proffesiynol i ddeintyddfeydd. Bydd hyn yn cefnogi mabwysiadu a phrofi ffyrdd newydd o weithio a fydd yn annibynnol ar y monitro presennol ac yn galluogi deintyddfeydd i brofi effaith mecanwaith talu gwahanol. Bydd hyn yn cymell atal, cynyddu’r defnydd o sgiliau’r tîm cyfan, ac annog arweinyddiaeth ymhlith deintyddion drwy eu cymeradwyo i arloesi. Derbyniwyd saith deg tri o geisiadau i’r gronfa arloesi ac mae’r rhain yn cael eu hasesu ar hyn o bryd. Mae hyd at £1.5 miliwn ar gael i gefnogi ceisiadau llwyddiannus.              

Ond hefyd mae angen cynyddu’r symud oddi wrth y broses gontractio bresennol sy’n cael ei sbarduno gan dargedau triniaeth ac ehangu’r diwygio contractau ymhellach. I wneud hynny bydd rhaid rhoi blaenoriaeth ddigonol i ddiwygio contractau gofal deintyddol sylfaenol a bydd rhaid wrth anogaeth gan arweiniad y swyddogion gweithredol yn y byrddau iechyd. Rwyf nawr yn disgwyl i isafswm o 20% o ddeintyddfeydd fod yn cymryd rhan ym mhob ardal o fis Ebrill 2019 ymlaen. Rwyf yn gwerthfawrogi bod hyn yn heriol, ond mae’n bosibl. Hefyd bydd fy swyddogion yn trafod gyda byrddau iechyd unigol y rhaglen waith ar gyfer diwygio yn y dyfodol a byddant yn ystyried unrhyw bryderon penodol sydd ganddynt am gyrraedd y nod hwn.

Byddaf yn parhau i ddarparu gwybodaeth am ddatblygiad a chynnydd y rhaglen ddiwygio ddeintyddol wrth iddi wneud cynnydd.