Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Gall y gaeaf olygu bod pwysau cynyddol yn cael ei roi ar ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac felly rwyf am roi'r diweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd rydym wedi'i wneud i wella'r gofal ar gyfer y rhai sy'n ddifrifol wael. Mae gwasanaethau gofal critigol gwydn yn elfen hanfodol o Wasanaeth Iechyd Gwladol sy'n rhedeg yn llyfn, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Rydym yn benderfynol o fynd i'r afael â rhai o'r materion a wynebir gan y rhan hon o'r gwasanaeth. Mae gan y gwaith hwn sy'n cael ei gyfarwyddo'n genedlaethol gysylltiadau pwysig â meysydd eraill sy'n datblygu, fel gwasanaethau trawma mawr ac amryw o wasanaethau arbenigol, fel triniaeth yn dilyn ataliad y galon y tu allan i'r ysbyty a llawdriniaethau fasgwlaidd. Mae'n bwysig felly ei fod yn cael ei ystyried yn y cyd-destun ehangach hwnnw. 

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y bydd gofal critigol yng Nghymru yn cael £15 miliwn y flwyddyn yn rhagor o'r flwyddyn ariannol nesaf ymlaen. Cafodd Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones, ei sefydlu i benderfynu sut y dylai'r arian gael ei ddyrannu. Mae'r Grŵp yn dymuno datblygu model cenedlaethol a gwneud argymhellion strategol ar gyfer y dyfodol. Hoffwn fod yn gwbl glir nad yw hyn yn golygu ein bod yn ystyried israddio unrhyw wasanaeth. Yn hytrach, rydym am gefnogi gwasanaethau i fod yn gyson effeithiol a chynaliadwy.

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi cyfarfod deirgwaith ers mis Awst. Ceir cynrychiolaeth o'r amrywiol arbenigeddau a phroffesiynau perthnasol ar draws Cymru ymhlith aelodau’r Grŵp, ac maent yn cael eu hadlewyrchu hefyd yn ei wahanol ffrydiau gwaith. Golyga'r dull cydweithredol hwn bod modd gwneud argymhellion o safbwynt Cymru gyfan, ac ar sail tystiolaeth.

Adroddir yn ôl i'r Grŵp gan saith ffrwd waith sydd wedi'u cynllunio i edrych ar:

  • Fapio modelau gwasanaeth, y galw a'r capasiti
  • Gofynion y gweithlu yn y dyfodol
  • Gwaith allgymorth
  • Unedau gofal ôl anesthesia
  • Cymorth anadlu hirdymor
  • Trosglwyddo cleifion
  • Mesurau perfformiad.

Bydd y ffrydiau gwaith yn ymgymryd â'u gwaith ac ymchwil fel yr ystyriant sy'n briodol, gan alluogi i'r rhaglen waith genedlaethol bwysig hon gael ei llywio gan staff sy'n arwain ar eu gwasanaethau ac sy'n gweithio ynddynt. Maent yn ystyried effaith unrhyw argymhellion, gan gadw mewn cof ein hanghenion i fodloni safonau gofal cyson, trothwyon, rheoli llif gwelyau, y galw a gwneud y gorau o'r capasiti.

Mae cynnydd cynnar wedi'i gyflawni eisoes. Er enghraifft, mae gofal critigol wedi dod yn un o feysydd yr ymgyrch Hyfforddi, Gweithio, Byw, sy'n tynnu sylw at y cyfleoedd presennol i weithio mewn gofal critigol yng Nghymru. At hynny, bydd gofal critigol yn rhan o'r dangosfwrdd gofal heb ei drefnu, a bydd mesurau perfformiad newydd i adrodd arnynt o fis Ionawr 2019.

Er mwyn cefnogi gofal critigol y gaeaf hwn, bydd Aelodau yn ymwybodol hefyd fy mod i wedi neilltuo bron i £5 miliwn i fyrddau iechyd lleol. Bydd y cyllid hwn yn helpu byrddau iechyd i gynyddu eu capasiti ar adegau pan fo'r galw'n uchel a bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn cynyddu ei nifer o welyau gofal critigol yn barhaol.

Ni fydd y cyllid untro hwn yn gosod cynsail ar gyfer y cyllid cylchol blynyddol o £15 miliwn o'r flwyddyn ariannol nesaf, oherwydd bydd y cyllid hwnnw'n destun argymhellion gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen. Fodd bynnag, mae'n pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi'r Gwasanaeth Iechyd y gaeaf hwn a chynllunio ar gyfer dulliau newydd, mwy cynaliadwy o weithio yn y dyfodol. Mae'n ofynnol i fyrddau iechyd werthuso effaith y cyllid ychwanegol hwn ar ôl y gaeaf ac adrodd yn ôl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r Grŵp Gweithredu ar Ofal Critigol. Mae gwaith wedi bod yn parhau hefyd i ymchwilio i weld a ellir gwella'r ffordd o ddychwelyd cleifion, a’u trosgwlyddo rhwng byrddau iechyd. Byddai hyn yn caniatáu i gleifion fod yn agosach at eu cartrefi ac yn sicrhau bod y lefelau amrywiol o unedau gofal critigol yn cael eu defnyddio'n well.

Mae ein rhaglen genedlaethol o waith, sy'n torri tir newydd, yn cael ei harwain gan glinigwyr a bydd yn golygu bod gwelliannau cynaliadwy yn cael eu gwneud o ran gofal critigol. Nid oes amheuaeth y bydd y gwaith hwn yn dod i'r casgliad bod angen cynyddu nifer y gwelyau gofal critigol, ond bydd angen mwy o newidiadau eto er mwyn trawsnewid gwasanaethau. Rydym yn cydnabod bod heriau mawr o'n blaenau, yn arbennig mewn perthynas â mynd i'r afael â materion y gweithlu. Mae'r rhaglen waith hon yn debygol o gymryd sawl blwyddyn i'w gweithredu'n llawn ond mae ein dull eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran Meddygaeth Gofal Dwys. Mae'r rhaglen hefyd wedi denu diddordeb proffesiynol a chan lywodraethau y tu allan i Gymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda'n Gwasanaeth Iechyd Gwladol, fel partneriaid cyfartal, i wella gwasanaethau a chanlyniadau i'n cleifion sy'n ddifrifol wael.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r rheolwyr a'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio gyda'i gilydd i drawsnewid ein gwasanaethau gofal critigol mewn modd ystyrlon, a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth. Edrychaf ymlaen at weld y gwaith hwn yn dirwyn i ben y gwanwyn nesaf pan fyddwn yn rhoi'r diweddaraf i'r Aelodau am yr argymhellion.