Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rydym yn falch o ymuno â’r dathliadau ledled y byd ar Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Fel cefnogwr swyddogol i Ddiwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd y Diwrnod wrth ysgogi sgwrs genedlaethol am ddiogelwch ar-lein.

Y thema fyd-eang eleni yw ‘Rhyngrwyd gwell gyda’n gilydd’. Rydym yn gwybod bod gweithio mewn partneriaeth yn hollbwysig yn y maes hwn. Yn union fel mae diogelwch yn fater i bawb, mae’n rhaid i ni gofio bod gan bawb rôl i’w chwarae i sicrhau diogelwch ar-lein. Mae llawer o waith eisoes wedi’i wneud ledled Cymru i helpu i gadw ein dysgwyr yn ddiogel ar-lein ac mae heddiw yn gyfle perffaith i godi ymwybyddiaeth o’r gwaith hwnnw.

Eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth ag UK Safer Internet Centre (sy’n cynnwys y sefydliadau arbenigol South West Grid for Learning, Childnet ac Internet Watch Foundation), i gydlynu nifer o weithgareddau sy’n cefnogi Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel. Mae’r rhain yn cynnwys cynnal digwyddiad paratoi rhanddeiliaid Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel a datblygu pecynnau addysg ddwyieithog ar gyfer y Diwrnod, gan gynnwys pecyn paratoi ar gyfer y Diwrnod sydd wedi’u comisiynu’n arbennig ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Gellir cael gafael ar y pecynnau hyn drwy’r Hwb ac maent wedi’u gwylio dros bedair mil o weithiau.

Ym mis Tachwedd, bûm yn Ysgol Gyfun Porthcawl i lansio Cynllun Gweithredu Diogelwch Ar-lein i Gymru. Mae’r cynllun gweithredu yn cynnwys 46 ymrwymiad sy’n ceisio gwella darpariaeth diogelwch, polisi ac ymarfer ar-lein.

Gan weithio gyda sefydliadau partner, mae’r cynllun yn nodi’r gweithgareddau a’r rhaglenni amrywiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, gyda’r prif nod o ddiogelu plant a phobl ifanc ar-lein. Mae’n rhoi ffocws ar gyfer y gwaith diogelwch ar-lein drwy Lywodraeth Cymru a bydd yn cael ei ddiweddaru’n flynyddol.

Heddiw yw ail ben-blwydd y Parth Diogelwch Ar-lein, sef rhan arbennig ar Hwb sy’n ffynhonnell arweiniad, cymorth a chyfres helaeth o adnoddau ar faterion diogelwch ar-lein. Hyd yma, mae’r parth wedi derbyn dros ddau gant saith deg pum mil o ymweliadau ac wedi gweld cyhoeddi dros gant o adnoddau sy’n cwmpasu ystod eang o bynciau fel; effaith y rhyngrwyd ar ddelwedd y corff ac adnoddau newydd sy’n archwilio effaith pornograffi. Mae’r parth yn parhau i fynd o nerth i nerth, ac mae wedi’i gyfoethogi ymhellach drwy weithio mewn partneriaeth â sefydliadau fel yr NSPCC, MEIC Cymru a School Beat, gan ddarparu ystod eang o adnoddau creadigol ac ysgogol ar gyfer dysgwyr, ymarferwyr addysg, rhieni a gofalwyr a llywodraethwyr.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda South West Grid for Learning i ddarparu rhaglen diogelwch ar-lein eang. Fel rhan o’r rhaglen hon, rydym wedi cyflwyno sesiynau hyfforddiant yn raddol ledled Cymru i uwchsgilio ymarferwyr, ac yn fwyaf diweddar, rydym wedi canolbwyntio ar y Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data ac effaith y rhyngrwyd.

Rhan allweddol o’r rhaglen oedd datblygu’r Adnoddau Diogelwch Ar-lein i Gymru sy’n cynnwys pum cynllun gwers i bob grŵp blwyddyn, o’r Cyfnod Sylfaen i Flwyddyn 13. Yn cynnwys wyth maes allweddol ar ddiogelwch ar-lein, mae’r cynlluniau gwersi ar gael nawr drwy restri chwarae ac maent ar gael yn Gymraeg. Bydd cynllun yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill yn amlinellu gweithgareddau ar gyfer 2019-2020.

Y llynedd, diweddarwyd ac ailwampiwyd yr adnodd 360 Safe Cymru, sef adnodd hunanasesu diogelwch ar-lein arobyn, dwyieithog. Mae’r adnodd ar gael ar Hwb ac mae wedi’i gynllunio i alluogi ysgolion i bwyso a mesur ac adolygu eu hymarfer diogelwch ar-lein a’u darpariaeth eu hunain. Hyd yma, mae bron i 90% o ysgolion yng Nghymru wedi cofrestru ar gyfer yr adnodd.

Bydd y cwricwlwm newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd. Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i bobl ifanc fedru addasu i newid, gallu dysgu sgiliau newydd gydol eu bywydau a gallu ymdopi â sefyllfaoedd bywyd newydd. Bydd Cymhwysedd Digidol hefyd yn thema drawsgwricwlaidd, ynghyd â llythrennedd a rhifedd, gyda’r cwricwlwm newydd.

Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol wedi bod ar gael i’n hysgolion ers 2016 fel elfen gyntaf ein cwricwlwm newydd. Mae’r Fframwaith yn cefnogi dysgwyr i amddiffyn eu hunain ar-lein drwy gynnwys y sgiliau digidol, y wybodaeth a’r agweddau ar draws yr holl gwricwlwm sy’n galluogi defnydd hyderus, creadigol a hanfodol o dechnolegau a systemau.

Mae’n dwyn ynghyd y sgiliau a fydd yn helpu plant i ffynnu mewn byd cynyddol ddigidol, er enghraifft sut i gadw’n ddiogel ar-lein, a hefyd i ddeall pwysigrwydd cydbwyso amser sgrin a chwarae gemau ar sgrin gyda rhannau eraill o’u bywydau. Mae’r fframwaith hefyd yn cynnwys materion fel ymddygiad ar-lein a seiberfwlio a sut i rannu gwybodaeth yn briodol, er mwyn helpu i baratoi dysgwyr ar gyfer yr agweddau cadarnhaol a negyddol o fod yn ddinesydd digidol.

Yn ogystal â’r Cymhwysedd Digidol, bydd ein Cwricwlwm newydd ar gyfer plant 3 i 16 oed yng Nghymru yn cynnwys cyfrifiant fel elfen o ddysgu o fewn Maes Dysgu a Phrofiad Gwyddoniaeth a Thechnoleg. Tra bod hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o’r cysyniadau allweddol sydd wrth wraidd cyfrifiadureg, o fewn hynny rwy’n disgwyl i ddiogelwch ar-lein gael sylw.

O oedran cynnar, mae’n hollbwysig bod ein holl ddysgwyr yn deall pwysigrwydd cadw gwybodaeth yn ddiogel, gyda hynny’n arwain at ddealltwriaeth fwy soffistigedig o oblygiadau diogelwch ar-lein i’w hunain ac i eraill. Mae hyn yn allweddol i lesiant personol dysgwyr, ynghyd ag i ddatblygu dealltwriaeth ehangach o ddiogelwch systemau a thrafod data. Byddwn yn llunio’r Meysydd Dysgu a Phrofiad drafft a byddant ar gael ym mis Ebrill ar gyfer adborth ehangach fel rhan o’r cyfnod nesaf o gyd-adeiladu.

Un o bedwar diben y cwricwlwm newydd yw i ddysgwyr ddatblygu fel unigolion iach a hyderus sy’n gwybod sut i ddod o hyd i’r wybodaeth a’r gefnogaeth i gadw’n ddiogel a saff a chreu cysylltiadau cadarnhaol sy’n seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth a pharch. Bydd Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Llesiant yn cefnogi dysgwyr i: brosesu ac ymateb i brofiadau ar-lein; gwneud penderfyniadau diogel wrth ymgysylltu ar-lein a chydnabod cysylltiadau niweidiol neu rai nad ydynt yn iach ar-lein.

Mae diogelwch ar-lein yn sicr yn fater diogelu. Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo llesiant pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Rydym yn disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio gyda phlant rannu’r ymrwymiad hwn. Mae’n rhaid i bob ysgol enwi Uwch Swyddog Dynodedig a fydd yn sicrhau bod staff, dysgwyr a rhieni yn teimlo’n hyderus y gallant grybwyll materion neu bryderon am ddiogelwch neu lesiant dysgwyr, ac y byddant yn cael eu clywed ac yn cael eu cymryd o ddifrif. Mae ein canllawiau statudol, Cadw Dysgwyr yn Ddiogel, yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd a bydd drafft diwygiedig yn cael ei gyhoeddir ar gyfer ymgynghoriad yn ystod y gwanwyn.

Mae bwlio ar-lein yn aml yn bryder allweddol i blant a phobl ifanc a’u rhieni. Mae’r canllawiau gwrthfwlio presennol, ‘Parchu eraill’ yn cael eu diwygio ar hyn o bryd. Cyhoeddwyd y canllawiau drafft ar gyfer ymgynghori ym mis Tachwedd 2018. Bydd yr ymgynghoriad hwnnw yn dirwyn i ben ar 15 Chwefror 2019. Mae pecyn cymorth adnoddau ar-lein yn cyd-fynd â’r canllawiau hyn i gefnogi ymarferwyr, rhieni a dysgwyr a bydd ar gael ar Hwb.  Mae ymgysylltu sylweddol wedi bod i ddeall sut gall y canllawiau gefnogi anghenion dysgwyr ac athrawon orau. Bydd hyn yn helpu i feithrin system ysgolion cadarn a chynhwysol gydag ymrwymiad i ragoriaeth, cyfiawnder a llesiant.

Er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cael ei chynrychioli ar lefel y DU, Chris Owen, Pennaeth yr Is-adran Dysgu Digidol, yw cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Gyngor Diogelwch y Rhyngrwyd y DU (UKCIS) ar ei newydd wedd. Mae cael cynrychiolaeth ar UKCIS yn ein galluogi i herio a dylanwadu ar benderfyniadau polisi ar lefel y DU gan sicrhau bod cyd-destun Cymru yn cael ystyriaeth briodol. Mae swyddogion ym maes addysg wedi gweithio gyda’r DCMS a’r Swyddfa Gartref i gyfrannu at Bapur Gwyn ar Niwed Ar-lein sy’n dilyn ymateb y llywodraeth i’r Strategaeth Diogelwch Rhyngrwyd a gyhoeddwyd y llynedd.

Gyda’r rhyngrwyd yn rhan annatod o’n bywydau ni heddiw, mae sgiliau digidol yn hollbwysig i sicrhau ein llwyddiant ym maes addysg, y gweithle a’n bywydau ehangach. Gyda photensial enfawr a manteision di-ri y rhyngrwyd, mae’n rhaid i ni fod yn ymwybodol drwy’r adeg o’r peryglon y gall eu hachosi.

Dyna pam fod gen i ymrwymiad, fel Gweinidog Addysg ac fel rhiant, i sicrhau bod addysg yn paratoi ein plant a’n pobl ifanc i fyw yn y byd digidol hwn yn hyderus a llwyddiannus.