Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn roi'r newyddion diweddaraf am y gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghymru mewn perthynas â chynllunio gofal ymlaen llaw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl yn cael dewis lle y maent yn dod i ddiwedd eu hoes – boed hynny yn eu cartref eu hunain, yn yr ysbyty, neu mewn hosbis. Rydym yn awyddus i bawb gael mynediad at ofal o ansawdd uchel, waeth ble y maent yn byw ac yn marw, a beth yw eu clefyd neu eu hanabledd. Dyna pam yr ydym yn parhau i neilltuo dros £8m bob blwyddyn ar gyfer darparu'r gofal diwedd oes y mae pobl Cymru yn ei haeddu.

Mae ein cynllun ar y cyd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru - Cymru Iachach - yn deillio o'r ymrwymiad hwnnw. Mae'r cynllun yn ystyried sut y gallwn ymgorffori gofal iechyd sy'n seiliedig ar werth fel ffordd o fesur yr hyn sydd fwyaf pwysig i bobl Cymru, gan sicrhau bod unrhyw weithgarwch gwella yn canolbwyntio ar ganlyniadau. Rydym yn parhau i fuddsoddi yn ein gweithgarwch i wella ansawdd, gan ganolbwyntio i ddechrau ar y cylch ansawdd sy'n effeithio ar chwe llwybr sy'n cael effaith ar eu bywydau. Y chwech yw: rheoli meddyginiaethau'n fwy diogel; llwybrau llawdriniaeth a llawfeddygol; gofal i bobl hŷn a bregus; rheoli salwch acíwt;  gwasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol sy'n deg; a gofal diwedd oes.  

Mae'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes wedi ymrwymo i'r maes gwaith hwn, a gwnaed cynnydd da eisoes ar draws nifer o feysydd. Mae gennym un ffurflen ar gyfer Cymru gyfan i roi cyfarwyddyd i beidio â defnyddio dadebru cardio-anadlol; rhaglen hyfforddi ar gynnal sgwrs am salwch difrifol; gwefan cynllunio gofal ymlaen llaw, a hwyluswyr ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw ym myrddau iechyd Cymru; a Chynllun Cynllunio Gofal pediatrig ymlaen llaw ar gyfer Cymru gyfan. Hefyd, mae Byw Nawr yn helpu pobl i siarad yn fwy agored am farw, marwolaeth a phrofedigaeth, ac i wneud cynlluniau ar gyfer diwedd eu hoes. Bydd y wefan a'r ap TalkCPR yn cael eu defnyddio'n aml iawn gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol, cleifion a'u hanwyliaid; ac mae nifer o gylchgronau meddygaeth wedi rhoi sylw i'r ddau.

Yn ogystal â'r gweithredu sy'n digwydd ar lefel genedlaethol fel hyn, mae llawer o waith da yn mynd rhagddo ar lefel ranbarthol ac ar lefel leol. Mae'r gwaith hwnnw'n cynnwys addysgu meddygon teulu yng Nghaerdydd i ddefnyddio cynlluniau gofal ymlaen llaw; gweithredu dulliau datblygu cymunedol mewn perthynas â chynllunio gofal ymlaen llaw yn Sir Benfro er mwyn helpu pobl i feddwl am eu cynlluniau gofal ar gyfer y dyfodol; ac amrywiaeth o brosiectau arloesol megis y preswyliad llenyddol sy'n defnyddio barddoniaeth yn uned gofal lliniarol arbenigol Ceredigion. Mae'r prosiect hwn yn cyflwyno casgliad o gerddi dwyieithog sy'n crynhoi teimladau ac emosiynau, a'u defnyddio fel man cychwyn mewn diwrnodau hyfforddi i'r staff iechyd, y staff gofal cymdeithasol a staff o'r trydydd sector er mwyn eu helpu i drafod diwedd oes a marwolaeth. 

Er mwyn tynnu ynghyd y gwaith ar gynllunio gofal ymlaen llaw sy'n cael ei gyflawni ar lefel genedlaethol, ar lefel ranbarthol, ac ar lefel leol, gofynnir i fyrddau iechyd enwi arweinydd clinigol ar gyfer cynllunio'r gofal hwn, ac fe anogir y byrddau i ddatblygu swyddi i hwyluswyr yn y maes. Rydym wedi penodi arweinydd cynllunio strategol ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw – Dr Mark Taubert, Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal Lliniarol yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a hefyd rydym wedi sefydlu grŵp strategol ar gyfer cynllunio'r gofal hwn o dan gadeiryddiaeth Dr Taubert.  

Mae Dr Taubert wedi cael y dasg o gysylltu ag arweinwyr a hyrwyddwyr cynllunio gofal ymlaen llaw yng Nghymru i gydlynu prosiectau sy'n digwydd mewn gwahanol rannau o Gymru, a  chyhoeddi gwybodaeth amdanynt ar wefan advancecareplan.org.uk . Bydd hefyd yn darparu cyfeiriad strategol a chanllawiau ar gyfer agweddau ar gynllunio gofal ymlaen llaw sy'n berthnasol i Gymru gyfan drwy ymgynghori ag arweinwyr arbenigol a grwpiau a sefydliadau sy'n bodoli eisoes. Mae'r dull gweithredu strategol hwn yn cynnwys llunio manyleb ar gyfer cynnal cofnodion cleifion yn electronig yn y dyfodol, gan ei seilio'n bennaf ar y Cod Ymarfer presennol fel y ddogfen statudol, yn ogystal ag ar ganllawiau newydd NICE ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw fel egwyddor lywio reoleiddiol. 

Cafodd cynllunio gofal ymlaen llaw ei ddiffinio'n ddiweddar, mewn papur gwyn gan Gymdeithas Gofal Lliniarol Ewrop, i gynnwys dim ond unigolion sydd â galluedd meddyliol. Felly, yng Nghymru rydym wedi cyflwyno'r term cynllunio gofal ar gyfer y dyfodol i gynnwys hefyd benderfyniadau er budd gorau a wneir ar gyfer yr unigolion hynny y mae angen cynllunio gofal ar eu cyfer. Y nod yn y pen draw yw cynnal system cofnodion electronig sy'n caniatáu i gynlluniau gofal sydd wedi ei benderfynu ymlaen llaw ac sydd wedi eu cofnodi ar bapur, neu gynlluniau gofal yn y dyfodol, neu ofal ymlaen llaw sy'n rhai electronig, i gael eu lanlwytho fel dogfennau electronig. Y bwriad hefyd yw sicrhau y bydd yn bosibl defnyddio e-ffurflen i gofnodi gwybodaeth am gynlluniau gofal yn y dyfodol; ac y bydd modd cynnwys dymuniadau ynghylch dadebru cardio-anadlol a chaniatáu i gleifion gael mynediad uniongyrchol ar gyfer ysgrifennu a chyflwyno eu cynllun gofal ymlaen llaw, gan gynnwys nodi penderfyniadau ymlaen llaw i wrthod triniaeth. 

Yn olaf, yn 2019, bydd yr arweinydd strategol yn cynnal cynhadledd i drafod cynllunio gofal ymlaen llaw a chynllunio gofal ar gyfer y dyfodol yng Nghymru. Cynhelir y gynhadledd ar gyfer ymarferwyr iechyd a gofal cymdeithasol a chleifion, a bydd chynrychiolwyr o grwpiau gweithredu'r cynllun a cholegau brenhinol hefyd yn bresennol. Bydd hwn yn gyfle i helpu i gynhyrchu canllawiau ar gyfer amrywiaeth o amgylchiadau, gan gynnwys cynllunio gofal ymlaen llaw mewn perthynas â pharafeddygon yn y gymuned, rhoi organau, a charchardai. Bwriedir i'r digwyddiad gael ei ddarparu gan gyffredinolwyr i gyffredinolwyr ym maes gofal iechyd, a hynny gan gofio bod cyfleoedd ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw yn effeithiol yn codi'n ddyddiol ar ein wardiau, yn ein cartrefi nyrsio, ac yn ein cymunedau, yn ogystal ag yn ein lleoliadau gofal lliniarol.

Rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn rhoi sicrwydd i'r Aelodau bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud ac y bydd y gwaith yn parhau i fynd rhagddo. Gyda'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes, yr arweinydd clinigol strategol, a'r grŵp strategol ar gyfer cynllunio gofal ymlaen llaw i gyd yn goruchwylio'r datblygiadau, mae Cymru mewn sefyllfa dda i allu manteisio ar y cynnydd hwnnw mewn modd sy'n rhoi sylw i'r cyfleoedd coll y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad Macmillan ar gynllunio gofal ymlaen llaw, a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.