Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, Y Darpar Gwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr aelodau'n ymwybodol bod y Goruchaf Lys bellach wedi rhoi dyfarniad ar Atgyfeiriad Bil Ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (yr Alban).

Penderfynais ymyrryd yn yr achos hwn er mwyn sicrhau bod llais Cymru’n cael ei glywed, ac i geisio eglurder ar egwyddor gyfansoddiadol bwysig, felly rwy'n croesawu dyfarniad y Llys a'r eglurder y mae wedi ei roi i gwmpas pwerau datganoledig ar draws pob fframwaith datganoli. Rwy'n deall bod y dyfarniad yn ymwneud â chwestiwn penodol a yw darpariaethau Bil yr Alban o fewn cymhwysedd, ond bydd yn berthnasol ar gyfer pwerau'r Cynulliad wrth edrych tua'r dyfodol.

Mae’r ffaith bod y Llys wedi derbyn dadleuon a gyflwynwyd ar ran Llywodraethau Cymru a'r Alban ynghylch cwmpas ‘cysylltiadau rhyngwladol’ yn golygu nad oes amheuaeth bellach bod deddfu i reoleiddio canlyniadau domestig cytundebau rhyngwladol yn syrthio y tu allan i gwmpas y mater hwnnw a gedwir yn ôl.

Mae’n wir dweud, fodd bynnag, bod pasio Deddf yr UE (Ymadael) wedi golygu bod darpariaethau a fyddai wedi bod o fewn cymhwysedd yn y lle cyntaf bellach heb fod o fewn cymhwysedd, gan olygu nad oes modd gweithredu Bil yr Alban nawr (hyd yn oed pe bai modd gwneud hynny ar yr adeg y cafodd ei basio gan y Senedd).

Rydym wedi dweud yn glir o'r cychwyn nad oedd cyfranogaeth Llywodraeth Cymru yn yr achos yn ddim i'w wneud â'n Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) ni ein hunain. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir o'r cychwyn mai cynllun wrth gefn yn unig oedd ein penderfyniad i gyflwyno Deddf Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru), gan mai'r opsiwn yr oeddem yn ei ffafrio oedd gweld Deddf yr UE (Ymadael) yn darparu'n gywir ar gyfer y DU yn gyfan.

Drwy'r newidiadau a wnaed i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a'r Cytundeb Rhynglywodraethol ategol, llwyddwyd i amddiffyn datganoli yng Nghymru, a sicrhau bod cyfreithiau a meysydd polisi sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd yn parhau i fod wedi'u datganoli.

Pe na fyddem wedi sicrhau'r Cytundeb Rhynglywodraethol, byddai'n Bil ni hefyd wedi bod gerbron y Goruchaf Lys wrth ochr Bil yr Alban, ac mae'n debyg iawn mai'r un peth fyddai'r canlyniad – o fewn cymhwysedd pan basiwyd y Bil gan y Cynulliad, ond nifer o’r darpariaethau bellach yn cael eu hystyried y tu allan i gymhwysedd ddim ond yn sgil effaith Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a ddaeth i rym yn ddiweddarach. Mewn geiriau eraill, heb y Cytundeb Rhynglywodraethol ni fyddai ein Bil wedi dod i rym ac ni fyddai bellach modd ei weithredu.

Nawr mae'n bryd i ni symud ymlaen a chanolbwyntio ar y darlun ehangach. Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r wlad yn gyntaf er mwyn sicrhau nad ydyn ni'n carlamu’n wyllt tuag at Brexit heb gytundeb, a dod i gytundeb sy'n rhoi blaenoriaeth i’r economi a swyddi.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.