Carwyn Jones AC, y Prif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2018
Diweddarwyd diwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Fel y mae'r Aelodau yn ymwybodol, yng nghyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ddydd Sul 25 Tachwedd, cymeradwyodd y Deyrnas Unedig (DU) a'r Undeb Ewropeaidd (UE) y Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol cysylltiedig ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a 27 yr UE. 

Mae'r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn darparu asesiad Llywodraeth Cymru o'r hyn a gytunwyd. Ei ddiben yw rhoi gwybod i Aelodau'r Cynulliad am y goblygiadau i Gymru cyn y ddadl a’r bleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos nesaf.

Fel yr eglurais yn fy Natganiad Llafar i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Tachwedd, mae'n bwysig inni wahaniaethu rhwng y Cytundeb Ymadael a'r Datganiad Gwleidyddol.

Mae'r Cytundeb Ymadael yn pennu telerau ymadawiad y DU o'r UE ac yn cynnig sicrwydd cyfreithiol pan na fydd y Cytuniadau a chyfraith yr UE yn gymwys bellach i'r DU.

Mae gwir angen Cytundeb Ymadael. Er mwyn osgoi syrthio oddi ar y dibyn ymhen pedwar mis, mae’n hanfodol sicrhau bod gennym gyfnod pontio. Ceir mecanwaith yn y Cytundeb Ymadael hefyd ar gyfer ymestyn y cyfnod pontio – rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw amdano, er bod yr opsiwn i ymestyn y cyfnod pontio unwaith yn fwy cyfyngedig na’r hyn y byddem wedi dymuno ei gael.

Nodir yn y Cytundeb Ymadael hefyd y mesurau diogelu hawliau dinasyddion a fydd yn rhoi sicrwydd ynghylch statws dinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yma a hefyd gwladolion y DU sydd wedi dewis byw a gweithio neu ymddeol mewn ardal arall o Ewrop.

Mae’n cynnwys y testun cyfreithiol ar gyfer darparu mecanwaith y cynllun wrth gefn, a elwir yn ‘backstop,’ a fydd yn sicrhau na fydd ffin galed ar ynys Iwerddon, sy'n angenrheidiol ar gyfer diogelu Cytundeb Dydd Gwener y Groglith.

Mae rhai elfennau o'r Cytundeb Ymadael yn broblemus. Yn anad dim, elfennau sy'n ymwneud â'r ‘backstop’ ydy'r rhain - er enghraifft, methiant i ymrwymo'r DU i alinio'n raddol, yn hytrach na threfniant peidio â llithro yn ôl yn unig, â safonau'r a hawliau'r UE mewn perthynas â'r amgylchedd a'r farchnad lafur. Deillia'r elfennau hynny o'r diffygion yn safbwynt Llywodraeth y DU sy'n siapio'r Datganiad Gwleidyddol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw prif gydrannau'r cytundeb.  

Mae'r Datganiad Gwleidyddol yn amlinellu fframwaith ar gyfer perthynas y DU â 27 yr UE yn y dyfodol. Ystyrir y partneriaethau economaidd a diogelwch a’r trefniadau sefydliadol sydd eu hangen i negodi'r berthynas yn y dyfodol a'r ffordd y'i llywodraethir wedi hynny.

Datblygwyd y ddogfen hon ers i fersiwn fras gael ei chyhoeddi'n wreiddiol ar 14 Tachwedd, ond nid yw'n llwyddo o hyd i roi sicrwydd clir o berthynas yn y dyfodol â 27 yr UE a fyddai'n diogelu buddiannau Cymru a'r DU yn gyfan. Nid yw'n ddigonol o hyd ac, fel yr amlinellir isod, nid yw'n darparu'r sylfaen gywir ar gyfer perthynas y DU â'r UE yn y dyfodol. 

Safbwynt Llywodraeth Cymru

Ym mis Ionawr 2017, ynghyd â Phlaid Cymru, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Diogelu Dyfodol Cymru. Roedd ein Papur Gwyn ar Brexit yn amlinellu'r ffurf leiaf niweidiol ar Brexit. Mabwysiadwyd dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth gennym, felly nid yw'n fawr o syndod bod safbwynt y gymuned fusnes, undebau llafur a'r melinau trafod annibynnol blaenllaw yn cyd-fynd yn agos â’n safbwynt ni.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ac yn gyson o ran ei chwe blaenoriaeth, sydd fel a ganlyn:

  • Cymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn undeb tollau.
  • System fudo newydd sy'n creu cyswllt agosach rhwng mudo â chyflogaeth ac sydd hefyd yn diogelu gweithwyr rhag unrhyw gamfanteisio.
  • Cynnal mesurau diogelu cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hawliau gweithwyr.
  • Pwysigrwydd hanfodol cyfnod pontio er mwyn osgoi syrthio 'dros y dibyn'.
  • Sicrhau na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid yn sgil Brexit, yn unol â'r addewid adeg y refferendwm.
  • Perthynas gyfansoddiadol sylfaenol wahanol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU – ar sail parch o'r ddwy ochr a dim ymgais gan Whitehall i adfachu pwerau sydd wedi'u datganoli.

Mae Gweinidogion Cymru wedi manteisio ar bob cyfle posibl i ddylanwadu ar safbwynt y DU drwy ddarparu tystiolaeth o'n Papur Gwyn – a'r gyfres o ddogfennau polisi manwl a’i dilynodd – a thrwy roi enghreifftiau ymarferol o'r niwed y byddai dull Llywodraeth y DU yn ei achosi i’n heconomi a chymdeithas. 

Bob tro y pwysleisiwyd agwedd Llywodraeth y DU, gwelwyd ei bod wedi nesáu at y farn a gyflwynwyd gennym ni yn ein Papur Gwyn. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffaith bod llawer o safbwyntiau llinell goch Llywodraeth y DU yn amhosibl eu gwireddu, yn annerbyniol i’r mwyafrif o bobl, ac yn gwbl groes hefyd i dystiolaeth annibynnol.

Mae hyn i’w weld yn fwyaf eglur mewn perthynas â threfniadau tollau, lle mae Llywodraeth y DU wedi symud tuag at safbwynt ar gyfer y tymor byr i'r tymor canolig o aros mewn undeb tollau i bob pwrpas, heblaw mewn enw. Fodd bynnag, rydym yn dal i gredu nad yw Llywodraeth y DU wedi mynd yn ddigon pell.

Mae'r hyn a ganlyn yn gwerthuso’r safbwynt a gyflwynir yn y Datganiad Gwleidyddol yn erbyn y blaenoriaethau a nodwyd gennym sydd wedi’u cynnwys yn y datganiad. Nid yw’r mater hanfodol o ddisodli cyllid yr UE yn cael sylw yn y Cytundeb Ymadael na’r Datganiad Gwleidyddol ac mae Llywodraeth Cymru yn dal i gyflwyno’r ddadl i Lywodraeth y DU yn unol â’n polisi a amlinellir yn Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit a Diwygio trefniadau ariannu a chodi cyllid y DU ar ôl Brexit.

Rydym hefyd yn parhau i geisio trefniadau cyfansoddiadol newydd yn unol â’n papur polisi Brexit a Datganoli, ond rydym wedi llwyddo i amddiffyn ein setliad datganoli trwy sicrhau newidiadau sylfaenol i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a chytuno’r Cytundeb Rhynglywodraethol cysylltiedig, ac rydym yn parhau i wneud cynnydd da ar drefniadau fframwaith. 

Cymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn undeb tollau

Mae economi Cymru wedi'i hintegreiddio'n agos â Marchnad Sengl yr UE ac mae tua 60% o'r allforion nwyddau y gellir dweud eu bod yn dod o Gymru yn mynd i wledydd yr UE. Yn ôl dadansoddiad annibynnol, bydd unrhyw rwystr i fynediad i'r Farchnad Sengl, neu leihad sylweddol yn y mynediad hwnnw, yn cael effaith niweidiol. Po fwyaf y lleihad yn y mynediad i’r Farchnad Sengl, y gwaethaf y canlyniadau gan y bydd yr economi’n gyffredinol a sectorau penodol yn gweld llai o dwf neu dwf negyddol.

Ceir consensws cryf ymhlith economegwyr prif ffrwd y gallai economi'r DU fod hyd at 8% i 10% yn llai nag y byddai fel arall pe na fyddai'n cymryd rhan yn y Farchnad Sengl a phe byddai rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn cael eu cymhwyso arni yn lle hynny, fel a fyddai’n digwydd pe na châi gytundeb masnachu yn lle'r mynediad sydd ganddi i'r Farchnad Sengl. Byddai hyn yn difrodi masnach ar draws amryw o sectorau, gan gynnwys bwyd, moduro ac amrywiaeth eang o sectorau gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Gallai cytundeb masnach rydd â'r UE a fyddai'n debyg i'r cytundeb diweddar â Chanada arwain at leihad o tua 6% yn yr economi. Yn ôl gwaith dadansoddi, byddai hyd yn oed alinio polisi'n agos â'r UE drwy fod yn aelod o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd (EEA) yn gallu arwain at leihad o tua 2% i 4% yn yr economi na fyddai wedi digwydd fel arall.

Fel yr amlinellwyd yn Diogelu Dyfodol Cymru, mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y bydd gorfodi rhwystrau tariff neu rwystrau heblaw am dariffau, fel ardystio nwyddau rhwng y DU a'r UE, yn cael effaith niweidiol ar fusnesau yng Nghymru a’r DU. Mae’r rhan fwyaf o economegwyr hefyd yn cydnabod bod rhwystrau heblaw am dariffau yn cael mwy o effaith economaidd na thariffau. Dyna pam – ynghyd ag undeb tollau – y ffafriwyd yn ein Papur Gwyn barhau i sicrhau bod cyfundrefnau rheoleiddiol domestig ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn y DU yn cyfateb â rhai yr UE.

Byddai alinio safonau rheoleiddiol mewn modd deinamig ynghyd ag undeb tollau yn helpu i sicrhau bod y DU yn cymryd rhan yn llawn yn y Farchnad Sengl.

Mae Llywodraeth y DU wedi symud yn bell ers iddi gyflwyno ei safbwyntiau llinell goch annoeth, a gafodd eu hamlinellu yn araith Prif Weinidog y DU yn Lanacster House ym mis Ionawr 2017. Drwy beidio â bod yn glir am y cyfaddawdu anodd a oedd yn angenrheidiol yn ystod y negodiadau a thrwy beidio â bod yn barod i groesawu datrysiad sy'n sicrhau'r berthynas agosaf bosibl rhwng y DU yn gyfan a'r UE, heb fod yn aelod o'r Undeb ychwaith, mae Llywodraeth y DU wedi colli'r fantais y gellid bod wedi ei hennill ar gyfer y negodiadau.

O'r diwedd, mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod pwysigrwydd alinio tollau â'r UE ac mae'r Datganiad Gwleidyddol yn cyflwyno uchelgais ar gyfer masnachu heb dariffau rhwng y DU a 27 yr UE. Un diriogaeth dollau ar gyfer y DU yw sail y trefniadau ar gyfer y ‘backstop’, nad yw'n ddim mwy nag undeb tollau ei hun heblaw mewn enw.

Fodd bynnag, er bod y Datganiad Gwleidyddol yn nodi'r bwriad o feithrin yr un diriogaeth dollau y darperir ar ei chyfer yn y Cytundeb Ymadael, a'i gwella, nid yw hyn yn ymrwymiad clir bod y DU yn bwriadu cytuno i undeb tollau parhaol â'r UE.

Drwy fethu â bod yn eglur ynghylch y trefniadau tollau ar gyfer y dyfodol, bydd yr ansicrwydd yn parhau i fusnesau ynglŷn â’r berthynas fasnachu yn y dyfodol â phartner masnachu pwysicaf Cymru. Mae'n anochel y bydd yr ansicrwydd hwn yn parhau i effeithio ar benderfyniadau buddsoddi ac yn rhoi mwy o gymhelliad i fusnesau ganolbwyntio wrth fuddsoddi ar wledydd 27 yr UE er mwyn cael gwarant o allu masnachu heb dariffau â gwledydd eraill yr UE.

Er bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod pwysigrwydd alinio rheoleiddiol o safbwynt nwyddau, penderfynwyd na ddylid alinio'r sectorau gwasanaethau yn yr un ffordd. Mae'r Datganiad Gwleidyddol yn adlewyrchu'r dewis hwn, gan gynnwys mynediad i'r farchnad sy'n seiliedig ar 'gyfwerthedd' yn unig, ac mae hyn yn debygol o olygu mwy o wrthdaro rheoleiddiol. Mae'n anochel y bydd hyn yn effeithio ar yr allforion gwerth £700m gan y sector gwasanaethau o Gymru i wledydd yr UE. Nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r safbwynt y gallai manteision cynnal hyblygrwydd rheoleiddiol ar gyfer y sector gwasanaethau fod yn drech na’r costau a ddaw fel rhan anorfod o gael llai o fynediad i'r farchnad. Ar yr un pryd, bydd safbwynt Llywodraeth y DU ynglŷn â’r sector gwasanaethau yn cael effaith negyddol ar fasnachu a hefyd yn niweidio'r sector gweithgynhyrchu, sy'n cynnig gwasanaethau ynghyd â nwyddau a fasnachir.

Nid yw'r berthynas economaidd ar gyfer y dyfodol a gyflwynir yn y Datganiad Gwleidyddol felly yn amlinellu perthynas hirdymor sy’n darparu ar gyfer cymryd rhan yn y Farchnad Sengl ac mewn undeb tollau sydd ei angen er mwyn sicrhau sefydlogrwydd a sicrwydd ar gyfer y tymor hir.

System fudo newydd sy'n cysylltu â chyflogaeth ac sydd hefyd yn diogelu gweithwyr rhag unrhyw gamfanteisio

Mewn amryw o agweddau ar y berthynas economaidd yn y dyfodol, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn nesáu at ein safbwynt ni ond, o ran symudiad pobl a mudo, mae Llywodraeth y DU yn parhau'n benderfynol o gyfyngu ar y cyflenwad o weithwyr o'r UE ac – yn fwy diweddar – mae wedi cwestiynu cyfraniad gweithwyr yr UE sydd wedi symud i'r DU er budd busnesau, gwasanaethau cyhoeddus, cymunedau a chymdeithas yn gyffredinol.

Nid yw'r Datganiad Gwleidyddol yn cynnwys fframwaith manwl ar gyfer mudo a symudiad pobl ac mae'n seiliedig ar y rhagdybiaeth mai hawliau cyfyngedig iawn fydd gan bobl i symud rhwng y DU a 27 yr UE am resymau ar wahân i ymweliadau tymor byr. Bydd hyn yn amddifadu dinasyddion y DU o gyfleoedd i symud i fyw yng ngwledydd eraill yr UE, a gweithio yno, ac mae'n debygol o achosi problemau sylfaenol i'r cyflenwad o weithwyr ar gyfer ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus.

Mae safbwynt Llywodraeth y DU yn cael ei ategu gan adroddiad gan y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo cyn y Papur Gwyn ar fudo, y disgwylir ei weld yn hwyrach eleni. Yn ei hymateb i’r Pwyllgor mae Llywodraeth y DU wedi dechrau mynegi ei bwriad i symud tuag at system fudo nad yw'n ffafrio rhoi mynediad i wladolion yr UE cyn unrhyw un arall mwyach ac sy'n cynnig system fisa sy'n dewis rhai sgiliau a galwedigaethau penodol, yn ogystal â throthwy cyflog o £30,000 ar gyfer unrhyw swyddi sydd i'w llenwi gan y rheini sy'n mudo i'r DU nad ydynt yn wladolion y DU.

Yn ein Papur Polisi, Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, amlinellwyd gennym bolisi mudo ar gyfer y dyfodol sy'n gyson â chyflawni'r nod cyffredinol o sicrhau bod mynediad llawn a dirwystr i'r Farchnad Sengl yn parhau. Rydym o'r farn y dylai fod cysylltiad agosach rhwng mudo o Ewrop i’r DU yn y dyfodol â chyflogaeth – dylai'r mudwyr naill ai fod wedi cael cynnig swydd, neu fedru dod o hyd i un yn gyflym fel sy’n ofynnol eisoes mewn amryw o wledydd eraill yn Ewrop.

Rydym hefyd yn meddwl y dylid edrych ar fewnfudo mewn ffordd wahanol, fwy ffafriol i wladolion yr AEE a'r Swistir sy'n dod i'r DU fel rhan o'n perthynas ag Ewrop yn y dyfodol. Mae angen i'n polisi mudo gydnabod nad yr unigolion yn unig yr effeithir arnynt, ond hefyd eu teuluoedd. Dylai pobl sy'n dod yma i weithio allu cael mynediad i'r diogelwch wrth gefn a gynigir gan y system fudd-daliadau a'n gwasanaethau cyhoeddus eraill yn yr un modd yn fras ag y maen nhw ar hyn o bryd.

Yn ein barn ni, mae angen i'r polisi mudo a'r fframwaith ar symudiad pobl yn y dyfodol ymateb i anghenion yr economi a'r gymdeithas, yn hytrach na chael eu cyfyngu gan gwotas mympwyol, trothwyon cyflog a thargedau mudo net sy'n cael eu gyrru gan resymau gwleidyddol.

Mae dinasyddion yr UE yn gwneud cyfraniad hynod gadarnhaol i fywyd yng Nghymru. Bydd Cymru yn dal i fod angen mudwyr o wledydd yr UE i helpu i gynnal ein sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae bron i 80,000 o bobl o wledydd eraill yr UE yn byw yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae'r rhan fwyaf ohonynt mewn cyflogaeth. Bydd agwedd Llywodraeth y DU yn cyfyngu ar y cyflenwad o weithwyr yng Nghymru a gallai olygu ansolfedd i lawer o fusnesau sy'n ddibynnol ar y llif o weithwyr o wledydd yr UE.

Mae gan Gymru fannau gwan penodol mewn rhai sectorau allweddol. Er enghraifft, mae gennym nifer mawr o weithwyr yr UE yn y sector prosesu bwyd ac mae bron pob un un o'n milfeddygon sy'n gweithio yn y sector hylendid bwyd yn wladolion yr UE. O ganlyniad, byddai colli gweithwyr o'r UE yn cael effaith ar y gadwyn cyflenwi bwyd gyfan yn arbennig. Rydym yn ddibynnol ar weithwyr o'r UE mewn iechyd a gofal cymdeithasol, addysg uwch, twristiaeth a lletygarwch a gweithgynhyrchu.

Rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu agwedd at fudo yn y dyfodol ar y sail bod mudwyr sy’n dod i’r DU naill ai wedi cael cynnig swydd, neu fod ganddynt gyfle gwirioneddol i ddod o hyd i un, yn hytrach nag ar y sail bod cap mympwyol yn cael ei orfodi ar nifer y mudwyr. Bydd trothwy cyflog sydd bron i £4,000 yn uwch na'r cyflog cyfartalog yng Nghymru yn ei gwneud yn fwy anodd eto i fusnesau recriwtio'r gweithwyr sydd arnynt eu hangen. 

Fod bynnag, mae agwedd Llywodraeth y DU, fel y’i adlewyrchir yn y Datganiad Gwleidyddol, yn diystyru’r agwedd y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio tuag at fudo.

Cynnal mesurau diogelu cymdeithasol ac amgylcheddol, gan gynnwys hawliau gweithwyr.

Ers i'r DU ymuno â'r UE, mae cynnydd sylweddol a chynaliadwy wedi cael ei wneud ar ddatblygu safonau gofynnol ar gyfer materion ansawdd bywyd hanfodol megis yr amgylchedd, hawliau yn y gwaith a chydraddoldeb.

Unwaith eto, rydym wedi gweld Llywodraeth y DU yn symud o'i safbwynt cychwynnol wrth iddi gydnabod pwysigrwydd mesurau diogelu a hawliau yn y meysydd hyn. Mae'r Cytundeb Ymadael yn cynnwys ymrwymiad y bydd y DU a'r UE yn atal unrhyw leihad yn y mesurau diogelu o ran yr amgylchedd a'r farchnad lafur fel ag y maent ar hyn o bryd, ond rydym yn credu'n gryf y dylai'r DU ymrwymo i berthynas ddeinamig yn hytrach na pheidio â llithro'n ôl yn unig.

Mae'r DU gyfan wedi elwa yn sgil lefelau uchel o ddiogelwch ar gyfer yr amgylchedd a hawliau gweithwyr fel aelodau o'r UE a byddem yn parhau i fod yn gefnogol i alinio â nhw yn y dyfodol.

Pwysigrwydd hanfodol cyfnod pontio er mwyn osgoi syrthio 'dros y dibyn’

Ers cynnal y refferendwm, rydym wedi galw’n gyson am gyfnod pontio gan gydnabod yr angen i ganiatáu digon o amser i'r negodiadau ar ddyfodol perthynas y DU â'r UE gael eu cwblhau.

Er gwaethaf honiadau Llywodraeth y DU i gychwyn y gallai'r negodiadau gael eu cwblhau'n gyflym, pennwyd cyfnod pontio o 21 mis o'r dyddiad y byddwn yn ymadael â'r UE.  

Rydym wedi lobïo Llywodraeth y DU a 27 yr UE ar yr angen i alluogi i’r cyfnod pontio gael ei ymestyn. O ystyried pa mor gymhleth yw'r negodiadau a chan gadw mewn cof hanes blaenorol Llywodraeth y DU, mae'n hanfodol bod opsiwn i ymestyn y cyfnod pontio er mwyn cytuno ar y cytundeb cywir ar gyfer y dyfodol a fydd yn diogelu swyddi a'r economi. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr i wynebu syrthio dros ddibyn arall ym mis Rhagfyr 2020, nac ym mis Rhagfyr 2022 ychwaith. 

Mae'r Cytundeb Ymadael yn cynnwys mecanwaith ar gyfer ymestyn y cyfnod pontio, ond nid ydym yn meddwl mai dim ond yn yr amgylchiadau os bydd Llywodraeth y DU am osgoi gofyn am weithredu'r cynllun wrth gefn ar gyfer Gogledd Iwerddon y dylid cymhwyso’r opsiwn i ymestyn y cyfnod. Mae'n debygol y bydd angen mwy o amser ar gyfer negodi i sicrhau bod y cytundeb cywir yn cael ei daro mewn amryw o feysydd heblaw am y materion hynny sy'n bwysig ar gyfer ein perthynas fasnach yn y dyfodol.

Rydym hefyd yn credu y dylai hyd y cyfnod pontio adlewyrchu anghenion busnesau a chyrff cyhoeddus, ac na ddylai amserlen fympwyol gyfyngu arno – nid yw'r Cytundeb Ymadael y cytunwyd arno ar 25 Tachwedd ond yn cyfeirio at y posibilrwydd o estyniad o 'flwyddyn i ddwy flynedd arall'.

Casgliadau

Mae ymchwil annibynnol gan y Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (NIESR) yn amcangyfrif o dan "sefyllfa Chequers" sy'n llunio'r sylfaen ar gyfer y Datganiad Gwleidyddol, bydd economi'r DU 4% yn llai nag y byddai wedi bod fel arall. Amcangyfrifir mai colli masnach gwasanaethau â'r UE fyddai'n gyfrifol am hanner y lleihad hwn, ac mae effeithiau negyddol sylweddol ar gyfer yr economi hefyd yn sgil effaith lleihad yn nifer y mudwyr. Mae'r asesiad hwn yn gyson â'r farn gonsensws a grynhoir yn Diogelu Dyfodol Cymru.

Mae’r ddadl ynghylch y Cytundeb Ymadael a’r Datganiad Gwleidyddol yn gyfle i’r Cynulliad Cenedlaethol anfon neges glir i Lywodraeth y DU am y blaenoriaethau i Gymru a’r ffordd ymlaen.  

Ym marn Llywodraeth Cymru, yn seiliedig ar y dadansoddiad uchod, nid yw’r amlinelliad o berthynas y DU â'r UE yn y dyfodol sydd i'w cael yn y Datganiad Gwleidyddol yn diogelu ac yn adlewyrchu buddiannau Cymru a gweddill y DU.

Rydym yn croesawu’r camau y mae Llywodraeth y DU wedi cymryd i nesáu at ein safbwynt ni, ond mae’r Datganiad Gwleidyddol yn bell o gyrraedd y nod er mwyn sicrhau’r sefydlogrwydd a’r sicrwydd sydd eu hangen ar gyfer y tymor hir.

Dylai Llywodraeth y DU groesawu'r berthynas â'r UE yn y dyfodol a amlinellir yn Diogelu Dyfodol Cymru. Drwy fabwysiadu'r agwedd hon, prin y byddai angen newid y Cytundeb Ymadael, nad yw’r UE yn awyddus iawn i’w aildrafod.