Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae amcangyfrifon o’r angen a’r galw am dai yn y dyfodol yn hollbwysig wrth ddatblygu cynlluniau a strategaethau cenedlaethol a rhanbarthol, a heddiw gallaf gyhoeddi trefniadau newydd ar gyfer cyfrifo’r angen am dai yng Nghymru.

Mae amcangyfrifon cywir a chyfredol o’r angen am dai yn cael effaith ar draws meysydd polisi Llywodraeth Cymru. Maent yn ganolog i’r broses o ffurfio polisïau tai yn y dyfodol ar draws fy mhortffolio, ond maent hefyd yn sail i feysydd megis y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, y mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi yn 2020. Mae’r angen am dai hefyd yn sail i’r asesiadau llesiant lleol sy’n ofynnol dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Cafodd yr amcangyfrifon diweddaraf o’r angen am dai yng Nghymru eu cyhoeddi gan y Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru ym mis Hydref 2015. Roedd yr amcangyfrifon hynny’n dibynnu ar amcanestyniadau aelwydydd sydd wedi dyddio erbyn hyn ac y mae angen eu hailystyried, felly.

Mae deall yr angen am dai ychwanegol yn broses gymhleth a hynod dechnegol, a defnyddir gwahanol ddulliau asesu mewn gwahanol rannau o’r DU ar hyn o bryd. Dros y misoedd diwethaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru - gan gynnwys ystadegwyr o Wasanaeth Ystadegol y Llywodraeth - wedi mynd ati, ar fy nghais i, i gynnal adolygiad o’r trefniadau cyfredol. Rydym wedi cydweithio’n agos ag ymarferwyr profiadol o awdurdodau lleol yng Nghymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn casglu gwybodaeth am y dulliau a ddefnyddir gan lywodraethau eraill yn y DU i bennu’r angen am dai yn y dyfodol.

Yng ngoleuni’r cyngor yr wyf wedi’i gael o ganlyniad i’r gwaith hwn, rwyf wedi penderfynu y bydd Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu’r adnodd angen a galw am dai a ddatblygwyd gan Lywodraeth yr Alban. Bydd yr adnodd yn ein galluogi i ddarparu amcangyfrifon o’r angen am dai yn y dyfodol ar sail amcanestyniadau o’r aelwydydd newydd sy’n cael eu ffurfio y bydd angen unedau tai ychwanegol ar eu cyfer, ynghyd, a’r angen sy’n bodoli ar hyn o bryd ond nas diwallwyd. Caiff yr amcangyfrif cyffredinol ei gyflwyno fesul deiliadaeth gan ddefnyddio rhagdybiaethau ynghylch incwm, prisiau tai a lefelau rhent yn y dyfodol. Gan y bydd amcangyfrifon o’r angen am dai yn y dyfodol yn cael eu ffurfio gan ddefnyddio amcanestyniadau a rhagdybiaethau, byddwn yn cyhoeddi ystod o wahanol senarios.

Mae’r adnodd a ddefnyddir yn yr Alban wedi’i hen sefydlu, ac yn y dyfodol fe’i defnyddir i baratoi amcangyfrifon o’r angen am dai yn genedlaethol ac yn rhanbarthol. Rydym yn ddiolchgar am y cymorth yr ydym wedi’i gael gan yr Alban yng nghyswllt y gwaith hwn. Y cam nesaf y bydd angen ei gymryd ar unwaith fydd addasu’r adnodd, trwy gydweithio rhwng swyddogion yng Nghymru a’r Alban, er mwyn iddo fodloni gofynion Cymru.

Rwyf yn awyddus i’r ffynhonnell bwysig hon o ddata fod ar gael i lywio’r drafodaeth ehangach ynghylch tai yng Nghymru. Felly, yn y dyfodol bydd amcangyfrifon o’r ‘angen am dai’ yn cael eu cyhoeddi ar ffurf ystadegau swyddogol, a byddant yn cyd-fynd â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rwyf yn disgwyl i’r amcangyfrifon cyntaf ar lefel Cymru a lefel ranbarthol gael eu cyhoeddi yn ystod chwarter cyntaf 2019. Caiff penderfyniadau ynghylch methodoleg eu gwneud gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gyda chymorth grŵp o randdeiliaid allanol, a fydd yn cynnwys arbenigwyr o faes llywodraeth leol.

Mae’n bwysig nodi na ddylai’r amcangyfrifon swyddogol hyn o’r angen a’r galw am dai gael eu hystyried yn darged ar gyfer nifer y cartrefi newydd y bydd yn rhaid eu hadeiladu yng Nghymru. Yn hytrach, mae’r amcangyfrifon hyn yn darparu tystiolaeth a fydd yn sail i ddatblygu targedau lleol neu genedlaethol, y mae angen iddynt hefyd ystyried polisïau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol ac ystyriaethau ymarferol, er mwyn dod i farn ynghylch faint o dai mewn gwirionedd y gellir eu darparu mewn ardal.

Bydd Aelodau’n ymwybodol bod yr angen am dai wedi’i nodi hefyd yn ffrwd waith â blaenoriaeth gan y panel annibynnol sy’n cynnal Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy. Bydd yr  amcangyfrifon o’r angen am dai yn y dyfodol ar gael i’w defnyddio ochr yn ochr â chanfyddiadau’r Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy er mwyn datblygu polisi a chynigion ym maes tai yn y dyfodol.

Nid oes gennyf unrhyw gynlluniau yn syth i newid y gofynion ynghylch yr Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, a gaiff eu datblygu gan awdurdodau lleol i bennu’r gofynion o ran tai yn lleol. Heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol i ddweud wrthynt y dylent barhau â’r gwaith hwn. Rwyf yn bwriadu adolygu’r penderfyniad hwn yn unol ag unrhyw argymhellion sy’n deillio o’r Adolygiad o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy ac wrth i’r dull newydd o amcangyfrif yr angen am dai yn y dyfodol, yn genedlaethol ac yn rhanbarthol, fwrw gwreiddiau.

Rwyf yn falch ein bod wedi adnabod methodoleg gadarn ar gyfer amcangyfrif yr angen a’r galw am dai yn y dyfodol yng Nghymru. Mae hwn yn faes gwaith pwysig sy’n ategu ein huchelgais i ddarparu 20,000 o gartrefi yn ystod cyfnod y llywodraeth hon. Yn hanfodol, mae hefyd yn gam pwysig sy’n paratoi’r ffordd i ni weithio gyda’n partneriaid ym maes tai i ddatblygu persbectif mwy hirdymor eto ynghylch yr her barhaus o adeiladu mwy o dai, a thai gwell, ar sail yr amcangyfrifon gorau posibl o’r angen yn y dyfodol.