Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy’n cyhoeddi Adroddiad Cynnydd a Rhagolwg Cynhwysiant Ariannol.

Mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r gwaith pwysig sydd wedi’i wneud yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ers cyhoeddi’r Strategaeth a’r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol yn 2016.

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth o ran cynhwysiant ariannol lle mae gan bawb sy’n byw yng Nghymru fynediad i wasanaethau ariannol priodol a fforddiadwy, eu bod yn cael eu cefnogi gan wasanaethau gwybodaeth a chyngor sydd â sicrwydd ansawdd a bod ganddynt y gallu ariannol a’r cymhelliant i elwa ar y gwasanaethau ariannol sydd ar gael iddynt.

Mae’r Cynllun Cyflenwi Cynhwysiant Ariannol, sy’n cwmpasu’r cyfnod hyd at 2021, yn canolbwyntio ar y camau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni’r weledigaeth hon. Mae’n nodi camau yn erbyn tair thema’r strategaeth:

  • Mynediad i wasanaethau credyd ac ariannol fforddiadwy
  • Mynediad i wybodaeth ariannol, gan gynnwys cyngor ar ddyledion
  • Meithrin dealltwriaeth a gallu ariannol

Nid camau ar gyfer Llywodraeth Cymru yn unig yw’r rhain. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner ledled y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, sydd mewn lle da i hyrwyddo gallu ariannol a chynhwysiant ariannol. Mae rhai camau’n ymwneud â materion sydd y tu allan i reolaeth Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yng Nghymru, ond rydym wedi bod yn chwilio’n eiddgar am gyfleoedd i ymgysylltu a dylanwadu ar lefel y DU er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer Cymru.

Ddwy flynedd ers cyhoeddi’r Strategaeth a’r Cynllun Cyflenwi, credaf ei bod yn bwysig darparu diweddariad i randdeiliaid a dinasyddion ar weithgarwch cynhwysiant ariannol yng Nghymru. Mae’r adroddiad yn rhoi trosolwg o rai o’r gweithgareddau allweddol a gynhelir ledled Cymru, ac mae’r rhagolwg yn nodi heriau allweddol ar gyfer y deuddeg mis nesaf. Bwriedir darparu ciplun, gan gydnabod nad yw’r holl waith sy’n cael ei wneud gan ein partneriaid, wrth ddarparu gweithgareddau cynhwysiant ariannol ledled Cymru, yn gallu cael ei grybwyll yn yr adroddiad hwn.

Mae’r adroddiad cynnydd yn ein hatgoffa bod gan gynhwysiant ariannol rôl allweddol wrth sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle teg a chyfartal yn eu bywydau. Sicrhau ffyniant i bawb yw amcan allweddol Llywodraeth Cymru. Mae datblygu ein gwaith ar gynhwysiant ariannol yn cefnogi’r ymrwymiadau ‘Ffyniannus a Diogel’ sydd i’w gweld yn y Strategaeth Genedlaethol, sy’n ceisio sicrhau nad oes neb yng Nghymru yn profi allgau ariannol.

https://beta.llyw.cymru/trategaeth-chynllun-cyflawni-cynhwysiant-ariannol-cynnydd-chynlluniau-2018