Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AC, Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf yn falch o osod gerbron y Cynulliad heddiw y pedwerydd adroddiad blynyddol ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith gan Lywodraeth Cymru.

Yn unol ag Adran 3C o Ddeddf Comisiynau’r Gyfraith 1965, fel y’i mewnosodwyd gan Adran 25 o Ddeddf Cymru 2014, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru adrodd yn flynyddol gan egluro i ba raddau y mae cynigion Comisiwn y Gyfraith sy'n ymwneud â materion datganoledig yng Nghymru wedi cael eu rhoi ar waith.

Mae'r adroddiad hwn yn ymwneud â'r cyfnod rhwng 17 Chwefror 2018 a 15 Chwefror 2019, ac yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelodau am nifer o feysydd sy'n ymwneud â chynigion Comisiwn y Gyfraith yn ogystal â gwybodaeth am brosiectau Comisiwn y Gyfraith yn awr ac yn y dyfodol.

Mae llawer o gynnydd wedi'i wneud dros y deuddeg mis diwethaf, gan gynnwys cyflwyno Bil Deddfwriaeth (Cymru) a chyhoeddi adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith “Cyfraith Cynllunio yng Nghymru”. Rydym hefyd wedi bod yn rhan o’r prosiect ar ddiwygio lesddaliadol a chyfunddaliadol ac rydym hefyd wedi cytuno â Chomisiwn y Gyfraith ar brosiect i Gymru yn unig i ystyried y gyfraith sy'n ymwneud â thribiwnlysoedd datganoledig i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwys mawr ar gynigion Comisiwn y Gyfraith, fel y dangosir gan y cynnydd a nodir yn yr adroddiad.

Adroddiad ar weithredu cynigion Comisiwn y Gyfraith