Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y gorffennol rwyf wedi datgan y byddwn yn ystyried cyflwyno un llwybr canser yng Nghymru er mwyn sicrhau canlyniadau gwell ac adroddiadau mwy cywir. Gallaf gadarnhau heddiw fy mod wedi penderfynu cyflwyno un llwybr canser newydd ledled Cymru yn 2019. Bydd cyflwyno’r un llwybr canser yn disodli'r llwybrau Achosion brys lle ceir amheuaeth o ganser ac achosion nad ydynt yn rhai brys lle ceir amheuaeth o ganser. Dyma gam mawr ymlaen i Gymru sy’n cael cefnogaeth y gymuned glinigol a'r Cynghrair Canser Cymru yn y Trydydd Sector. Nid oes unrhyw wlad arall yn y DU wedi cymryd cam o'r fath.

Mae cefnogaeth y gymuned glinigol a'r trydydd sector yn adlewyrchu'r ffaith ein bod wedi datblygu ffordd o fesur amseroedd amser sy'n fwy cywir ac yn fwy ystyrlon yn glinigol. Bydd y llwybr canser yn mesur y cyfnod y mae'n rhaid i bobl aros ar y ddau lwybr traddodiadol ond yn bwysicach na hynny, bydd amser aros y claf yn dechrau o'r adeg yr amheuir bod canser arno yn hytrach na'r adeg pan fydd yn cael diagnosis. Mae'r llwybr ar gael ar gyfer yr holl gleifion canser, os ydynt wedi'u hatgyfeirio gan Feddyg Teulu, wedi darganfod y canser mewn argyfwng, wedi darganfod y canser yn ddamweiniol, drwy sgrinio neu yn ystod apwyntiad gofal eilaidd.

Ynghyd â galluogi un ffordd o fesur amseroedd aros yn y system iechyd sy'n fwy cywir, mae'r angen i safoni'r hyn sy'n cael ei fesur wedi bod yn gyfle unigryw i adolygu ansawdd y llwybrau a mynd i'r afael â'r amrywiaeth o ran ymarfer clinigol ledled Cymru. Mae hwn yn ddarn sylweddol o waith i'r GIG. Hoffwn dalu teyrnged i'r holl waith arweiniol a wnaed gan Rwydwaith Canser Cymru a'r gwaith ymgysylltu a pharatoi a wnaed gan y byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre dros y flwyddyn ddiwethaf.

Ers mis Ionawr, mae'r byrddau iechyd wedi bod yn llunio adroddiadau ar ffurf gysgodol yn unol â'r llwybr newydd. Bydd Cymru yn dechrau adrodd yn gyhoeddus o fis Mehefin 2019 ymlaen. Byddwn yn parhau i adrodd ar y llwybrau achosion brys lle ceir amheuaeth o ganser ac achosion nad ydynt yn rhai brys lle ceir amheuaeth o ganser sy'n fwy traddodiadol ochr yn ochr â'r llwybr canser newydd er mwyn sicrhau bod y broses mor dryloyw â phosibl ac er mwyn caniatáu inni allu gwneud cymhariaeth yn unol â'n targedau presennol. Fodd bynnag, ar ryw adeg briodol yn y dyfodol rwy'n disgwyl y byddwn yn trosglwyddo'n llwyr gan adrodd ar y llwybr newydd yn unig. Byddwn yn ymgysylltu ymhellach yn glinigol er mwyn pennu mesurau perfformiad ystyrlon ar gyfer y llwybr newydd.

Mae'r llwybr newydd yn dechrau cofnodi’r amser aros yn gynharach yn y broses a gallwn ddisgwyl gweld canrannau is ar y llwybr newydd. Mae'n bwysig nodi nad yw hyn yn golygu bod pobl yn gorfod aros yn hirach. Fodd bynnag, mae yn golygu bod profiad gwirioneddol y claf yn cael ei fesur mewn ffordd sy'n fwy cywir ac ystyrlon.  Mae'n bwysig bod y cyfan oll yn gywir gennym er mwyn sicrhau gwelliannau a hefyd sicrhau ein bod yn targedu gweithgarwch y GIG mewn modd sy'n fwy effeithiol.

Rwyf wedi buddsoddi £3 miliwn o fis Ebrill 2019 ymlaen fel rhan o setliad cyllidebol y GIG i gefnogi'r gwaith o gyflwyno un llwybr canser a sicrhau gwelliant o ran perfformiad. Bydd yr arian yn cael ei fuddsoddi yn y byrddau iechyd ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre i sicrhau bod ganddynt y gallu cynllunio, y gallu technegol a’r gallu i arwain er mwyn trosglwyddo'n llwyddiannus i un llwybr canser a chefnogi gwelliannau o ran perfformiad ac ansawdd yn y llwybrau gofal. Bydd angen canolbwyntio'n fwy yn lleol ac yn genedlaethol ar fuddsoddi, effeithlonrwydd a gallu diagnosteg er mwyn gwella perfformiad.

Rydym yn parhau i brofi dulliau arloesol o weithredu yng Nghymru er mwyn gwella canlyniadau o ran canser. Un enghraifft dda o hyn yw fy lleoliad heddiw ar gyfer gwneud y cyhoeddiad hwn, sef Canolfan Diagnosis Cyflym yn Ysbyty Brenhinol Gwent.  Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o wella’r canlyniadau o ran canser ar gyfer pobl Cymru ac mae'r llwybr canser newydd hwn, a'r ffaith ein bod yn canolbwyntio ar gael diagnosis canser yn gynharach, yn gamau yn y broses o sicrhau hynny.