Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 13 Mai 2019.

Cyfnod ymgynghori:
18 Chwefror 2019 i 13 Mai 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Mae'r crynodeb o ymatebion bellach ar gael ar Gov.uk

Ymgynghoriad gwreiddiol

Rydym yn ymgynghori ar y cyd â Llywodraeth y DU ar gynigion i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes (DRS) ar gyfer cynwysyddion diodydd.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae DRS yn gynllun lle rydych yn talu mwy am botel neu gan. Mae'r arian ychwanegol hwn, neu ernes, yn cael ei ddychwelyd pan fyddwch yn dychwelyd y cynhwysydd.

Mae ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gynnal ar gyflwyno system sy'n rhoi cyfrifoldebau estynedig i gynhyrchwyr deunyddiau pacio (EPR) ledled y DU.

Hoffem eich annog i edrych ar yr ymgynghoriad ar yr EPR ac ymateb iddo wrth ichi ystyried eich ymateb i'r ymgynghoriad ar y cynllun ernes hwn.

Mae'r ymgynghoriadau'n cael eu cynnal yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA).

Mae'r ymgynghoriad hwn yn cael ei gynnal ar GOV.UK