Neidio i'r prif gynnwy

Mae ein cynllun cyhoeddi yn rhestru categorïau o wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi neu'n bwriadu ei chyhoeddi yn Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).

Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw ac yn atebol fel awdurdod cyhoeddus. Mae'r Ddeddf Rhyddid gwybodaeth yn ein hannog i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i'r cyhoedd. Rydym yn cyhoeddi data y mae angen i bobl ei ddeall:

  • pwy ydym ni
  • faint rydym yn ei wario
  • yr hyn yr ydym yn ei gyflawni

Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i ni gynhyrchu cynllun cyhoeddi sy'n cynnwys yr wybodaeth arferol yr ydym yn ei darparu. Rydym yn grwpio gwybodaeth yn y dosbarthiadau gwybodaeth canlynol.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Gwybodaeth am y sefydliad, bywgraffiadau a chysylltiadau

Gwybodaeth am Awdurdod Cyllid Cymru

Aelodaeth o’r Bwrdd (ar ein tudalen hafan)

Bywgraffiad y Prif Weithredwr

Cysylltu â ni

Ein hymrwymiadau

  • Gwneud tryloywder yn rhan o'r ffordd yr ydym yn gweithredu.
  • Cyhoeddi data yn ddiofyn lle bynnag y bo hynny’n bosibl.
  • Cyhoeddi data yn unol â'r egwyddorion data cyhoeddus.
  • Sicrhau bod setiau data ar gael i'w hailddefnyddio, ac mewn fformat rhesymol ac ymarferol.
  • Adolygu ein data’n rheolaid.
  • Archwilio a gwella faint o ddata sy’n cael ei ryddhau i’r cyhoedd, a pha mor aml y gwneir hynny.
  • Cysylltu’r holl setiau ddata a gyhoeddir ar ein tudalennau gwe.

Faint rydym yn ei wario a sut rydym yn gwneud hynny

Gwybodaeth am incwm a gwariant a ragfynegir a’r symiau gwirioneddol, caffael, contractau, ac archwiliadau ariannol.

Ariannu

Manylion adran yn gwario dros £25,000

Ein cyfrifon blynyddol cyfunol

Cyllideb Awdurdod Cyllid Cymru (heb ei chyhoeddi eto)

Cyfarfodydd y Prif Weithredwr, y Cadeirydd ac Aelodau'r Bwrdd â sefydliadau allanol (heb eu cyhoeddi eto)

Recriwtio 

Gweinidogion Cymru sy’n gwneud penodiadau cyhoeddus i’n Bwrdd.

Mwy o wybodaeth am benodiadau cyhoeddus

Cyflogau a buddion

Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn efelychu telerau cyflog Llywodraeth Cymru ar gyfer staff, nad ydynt yn staff uwch y gwasanaeth sifil ac yn cyhoeddi'r rhain ar ein tudalen gweithio i ni.

Ar gyfer staff yr uwch wasanaeth sifil: Corff Adolygu'r Uwch Wasanaeth Sifil

Caffael

Datganiad Polisi Caffael Cymru

Ein blaenoriaethau a ble rydym ni arni

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Prosesau gwneud penderfyniadau a chofnodion o benderfyniadau

Cofnodion Bwrdd ACC

Ymgynghoriadau agored a chaeëdig

Polisïau a gweithdrefnau

Polisi preifatrwydd

Ein hamserlen cadw a gwaredu (yr hyn yr ydym yn ei gadw)

Concordat ar gofnodion cyhoeddus Cymru – rydym wedi'n rhwymo gan yr un ddeddfwriaeth â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Dosbarthiadau eraill

Rydym hefyd yn cyhoeddi gwybodaeth:

Treth Trafodiadau Tir

Treth Gwarediadau Tirlenwi

Ni fyddwn yn cyhoeddi gwybodaeth:

  • sy’n wybodaeth warchodedig am drethdalwyr
  • sydd wedi’i diogelu rhag cael ei datgelu
  • sydd ar ffurf drafft
  • sydd ddim bellach ar gael yn hwylus

Logo trwydded agored y Llywodraeth

Mae'r holl gynnwys ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v 3.0, ac eithrio lle nodir fel arall.

Gwneud cais am wybodaeth

Rydym wedi ymrwymo i ddarparu cymaint o wybodaeth ag sy'n ymarferol bosibl o dan y cynllun. Mae hyn yn golygu ei bod yn hawdd cael gwybodaeth, yn rhad ac am ddim.

Mae hyn hefyd yn golygu, mewn cryn nifer o achosion, y bydd y wybodaeth rydych yn chwilio amdani eisoes ar gael, ac na fydd angen i chi wneud cais ffurfiol.

Os na allwch ddod o hyd i'r hyn yr ydych yn chwilio amdano, neu os hoffech ofyn am ragor o wybodaeth, gallwch e-bostio data@acc.llyw.cymru. Ni chodir tâl am wybodaeth a ddarperir gennym yn electronig.

Gwneud cais am fformat papur

Os byddwch yn gofyn i ni ddarparu'r wybodaeth sydd ar gael ar ein gwefan ar bapur, efallai y bydd angen i ni godi tâl arnoch. Caiff pob achos ei ystyried yn unigol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn codi tâl os oes angen llawer o lungopïo, neu os yw’n gostus iawn i bostio llawer o waith papur.

Cywirdeb

Mae'n bwysig i ni fod y wybodaeth yr ydym yn ei darparu’n berthnasol ac yn gyfoes. Bydd y rhan fwyaf o'r wybodaeth a gynhwysir yn ein cynllun yn gyfredol. Fodd bynnag, efallai y bydd angen i ni gyhoeddi rhai dosbarthiadau o wybodaeth o'r gorffennol.

Fe wnawn ddarparu cymaint o wybodaeth â phosibl, ond ni fydd gwybodaeth o’r gorffennol sydd yn y cynllun bob amser ar gael.

Adborth

Rydym yn croesawu’ch adborth ar ein cynllun cyhoeddiadau. Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn gwybod pa ddata yr hoffech i ni ei ddarparu.

Awdurdod Cyllid Cymru

Blwch Postio 108
Merthyr Tudful
CF47 7DL

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.