Athro Ole Petersen CBE, FLSW FMedSci MAE ML FRS

Athro Ymchwil CYF, Biowyddoniaeth, Prifysgol Caerdydd

Mae Athro Ole Petersen yn Athro Cyngor Ymchwil Feddygol yn Ysgol Biowyddoniaeth Prifysgol Caerdydd. Mae'n un o'r ffisiolegwyr mwyaf blaenllaw yn y byd, ac mae'n arwain grŵp ymchwil a gefnogir gan y Cyngor Ymchwil Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd ynghylch clefyd ar y pancreas. Mae'n gyn Is-Lywydd y Gymdeithas Frenhinol ac mae'n Is-Lywydd Academia Europaea erbyn hyn. Yn ogystal, mae'n Gyfarwyddwr Canolfan Wybodaeth newydd Academia Europaea ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd yn aelod o'r CCWC cyntaf.