Neidio i'r prif gynnwy

3. Ad-dalu'r benthyciad ecwiti a rennir

Rhaid ichi ad-dalu'r benthyciad ecwiti a rennir o fewn 25 mlynedd. Fodd bynnag, cewch ei ad-dalu'n gyfan gwbl unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gallwch ad-dalu naill ai cyfran o'r benthyciad a dderbynioch, neu'r benthyciad i gyd, heb werthu'r eiddo – cynyddu cyfran eich perchentyaeth yw'r enw ar hyn (neu 'staircasing' yn Saesneg). Dan delerau'r benthyciad:

  • gallwch gynyddu cyfran eich perchentyaeth unrhyw bryd ar ôl cwblhau prynu'r eiddo
  • ar ôl prynu cyfran fwy, rhaid i'r swm sy'n weddill o'r benthyciad ecwiti a rennir yr ydych wedi ei gael gan gynllun Cymorth i Brynu – Cymru fod o leiaf 5% o werth yr eiddo ar y farchnad
  • nid ydych yn gallu cynyddu cyfran os ydych ar ei hôl hi gyda'ch taliadau misol i gynllun Cymorth i Brynu – Cymru, oni bai bod yr ôl-ddyledion hynny ac unrhyw ffioedd neu dreuliau eraill sydd heb eu talu yn cael eu talu pan fyddwch yn cynyddu cyfran eich perchentyaeth

Os ydych yn bwriadu newid perchenogaeth eich eiddo, bydd angen i chi gael caniatâd ysgrifenedig oddi wrth Help to Buy ( Wales) Ltd. Bydd rhaid i chi lenwi’r Ffurflen Newid Perchnogaeth 

Os ydych yn bwriadu gwerthu eich cartref, gwneud gwelliannau neu drosglwyddo perchenogaeth, bydd angen i chi gael caniatâd oddi wrth Help to Buy ( Wales) Ltd.  Os oes unrhyw un o’r amgylchiadau hyn yn berthnasol i chi, bydd raid i chi lenwi’r Ffurflen Canllaw ar ôl Gwerthu.

Os ydych yn bwriadu gwerthu, gwella neu drosglwyddo eich cartref Cymorth i Brynu – Cymru, dylech ddarllen ein taflen wybodaeth.

Rhaid i chi gyfarwyddo eich prisiwr RICS eich hun (sy’n aelod cofrestredig o Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) i gynnal y prisiad a chadarnhau’r gwerth presennol ar y farchnad. Ewch i canllawiau prisio.

Os ydych chi'n ad-dalu neu'n ail-ariannu eich trefniadau ariannol presennol, mae'n rhaid i chi hefyd gael gwerth marchnad yr eiddo trwy gyfarwyddo prisiwr annibynnol sy'n aelod cymwysedig o RICS.

Cewch fwy o wybodaeth am gytundeb Cymorth i Brynu – Cymru yn Cymorth i Brynu Cymru: Canllaw ar ôl gwerthu