Neidio i'r prif gynnwy

2. Israddedigion amser llawn

Mae israddedigion cymwys llawn-amser sy’n fyfyrwyr am y tro cyntaf yn medru gwneud cais am gymorth ariannol i helpu gyda’u costau byw tra byddant yn astudio. Mae’r cymorth yn gyfuniad o grantiau a benthyciadau (yn dibynnu ar gymhwysedd) ac, i’r rhan fwyaf, bydd yn gyfwerth â’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Rhaid i fyfyrwyr fod o dan 60 oed ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf eu cwrs i gael benthyciad cynhaliaeth fel myfyriwr israddedig.

Gallai israddedigion llawn-amser sy’n astudio ym mlwyddyn academaidd 2024 i 2025 fod yn gymwys am hyd at £15,170 y flwyddyn tuag at eu costau byw os ydynt yn byw oddi cartref ac yn astudio yn Llundain, neu £12,150 y flwyddyn os ydynt yn byw oddi cartref ac yn astudio mewn mannau eraill yn y DU.

Bydd pob myfyriwr amser llawn cymwys yn derbyn grant o £1,000 o leiaf, beth bynnag yw incwm yr aelwyd. Gallai myfyrwyr o gartrefi sydd ag incwm is fod yn gymwys am grant o hyd at £10,124 os ydynt yn astudio yn Llundain, neu hyd at £8,100 os ydynt yn astudio yng ngweddill y DU. Nid oes rhaid talu'r grant hwn yn ôl.

Mae’r ffigurau yn y tablau yn rhai enghreifftiol.

Byw oddi cartref, y tu allan i Lundain
Incwm aelwydGrantBenthyciadCyfanswm
£18,370£8,100£4,050£12,150
£25,000£6,947£5,203£12,150
£35,000£5,208£6,942£12,150
£45,000£3,469£8,681£12,150
£59,200 neu fwy+£1,000£11,150£12,150

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio oddi cartref, y tu allan i Lundain, hawl i uchafswm o £12,150 o gymorth cynhaliaeth. Uchafswm y grant yw £8,100. Caiff hwn ei ostwng £1 am bob £5.750 ychwanegol o incwm dros £18,370. Gellir cael y balans i’r uchafswm o £12,150 fel benthyciad.

Byw oddi cartref, yn astudio yn Llundain
Incwm aelwydGrantBenthyciadCyfanswm
£18,370£10,124£5,046£15,170
£25,000£8,643£6,527£15,170
£35,000£6,408£8,762£15,170
£45,000£4,174£10,996£15,170
£59,200 neu fwy+£1,000£14,170£15,170

Mae gan fyfyrwyr sy’n astudio oddi cartref, yn Llundain, hawl i uchafswm o £15,170 o gymorth cynhaliaeth. Uchafswm y grant yw £10,124. Caiff hwn ei ostwng £1 am bob £4.475 ychwanegol o incwm dros £18,370. Gellir cael y balans i’r uchafswm o £15,170 fel benthyciad.

Byw gartref

Incwm aelwydGrantBenthyciadCyfanswm
£18,370£6,885£3,430£10,315
£25,000£5,930£4,385£10,315
£35,000£4,488£5,827£10,315
£45,000£3,047£7,268£10,315
£59,200 neu fwy+£1,000£9,315£10,315

Mae gan fyfyrwyr sy’n byw gartref hawl i uchafswm o £10,315 o gymorth cynhaliaeth. Uchafswm y grant yw £6,885. Caiff hwn ei ostwng £1 am bob £6.937 ychwanegol o incwm dros £18,370. Gellir cael y balans i’r uchafswm o £10,315 fel benthyciad.

O dan y pecyn cymorth, bydd myfyrwyr yn gymwys i gael benthyciadau i dalu am eu ffioedd dysgu. Ni fydd angen i’r rhan fwyaf o fyfyrwyr dalu dim ymlaen llaw am eu cwrs. Ceir rhagor o fanylion ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru. Rhaid i fyfyrwyr sy'n astudio cyrsiau'r Brifysgol Agored yng Nghymru wneud cais am gymorth rhan-amser, waeth beth am ddwyster y cwrs sy’n cael ei astudio.

I gael gwybod am gyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2023 i 2024, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Bydd myfyrwyr a ddechreuodd eu cwrs cyn Awst 2018 yn parhau i gael y pecyn cymorth i fyfyrwyr y maen nhw'n ei gael ar hyn o bryd.

Yn ychwanegol at gymorth ar gyfer costau byw a ffioedd dysgu, gallech gael y cymorth canlynol:

Grant Gofal Plant: gallech dderbyn Grant Gofal Plant fel cyfraniad at gost eich gofal plant os bydd gennych blant mewn gofal plant cofrestredig neu gymeradwy ac rydych yn astudio cwrs sydd â dwyster o 50% neu fwy. Bydd y swm y gallech ei dderbyn yn dibynnu hefyd ar incwm eich aelwyd. Ni fyddwch yn gymwys ar gyfer y grant hwn os byddwch chi neu eich partner yn hawlio'r elfen gofal plant sy'n rhan o'r Credyd Treth Gwaith neu'r Credyd Cynhwysol, Lwfans Gofal Plant y GIG neu Gofal Plant Di-dreth oddi wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi.

Lwfans Dysgu i Rieni: gallech dderbyn cymorth ar gyfer costau sy'n gysylltiedig â chwrs astudio os bydd gennych blentyn neu blant dibynnol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £1,914 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.

Grant Oedolion Dibynnol: gallech fod yn gymwys i gael eich ystyried am Grant Oedolion Dibynnol os bydd gennych bartner neu oedolyn arall sy'n ddibynnol arnoch yn ariannol. Yr uchafswm y gallech ei gael yw £3,353 y flwyddyn, ond bydd hynny'n dibynnu ar incwm eich aelwyd a dwyster eich cwrs.

Mae Grantiau i Fyfyrwyr Anabl hefyd ar gael i’ch cefnogi tra byddwch yn astudio cwrs amser llawn.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y cymorth a nodwyd uchod ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.

Cofiwch ddilyn Cyllid Myfyrwyr Cymru ar Twitter a Facebook i gael gwybod y newyddion diweddaraf.

Bwrsarïau ac ysgoloriaethau - gallai rhai prifysgolion a cholegau gynnig bwrsarïau neu ysgoloriaethau yn ôl disgresiwn. Gallwch gysylltu â'ch Gwasanaeth Cymorth i Fyfyrwyr i weld a oes unrhyw gymorth ariannol ychwanegol ar gael ichi. Os byddwch yn astudio cwrs sy'n arwain at gymhwyster mewn meddygaeth, deintyddiaeth neu ofal iechyd, yna mae'n bosibl y gallech gael bwrsari gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG). Ewch i wefan Gwasanaethau Dyfarniadau i Fyfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Mae'r holl ffigurau yn ddarostyngedig i reoliadau.