Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych rhwng 16 ac 18 oed, ni fydd yn rhaid i chi dalu ffioedd dysgu fel arfer. Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael: 

Mae'r Gronfa Ariannol wrth Gefn yn rhoi cymorth i fyfyrwyr:

  • sy'n wynebu trafferthion ariannol 
  • sy'n debygol o adael y byd addysg. 

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r coleg lleol sy'n rhedeg y cynllun.

Os ydych dros 19 oed mae'n bosibl y bydd angen i chi dalu ffioedd dysgu. Mae’r rhan fwyaf o golegau addysg bellach yn cynnig dysgu am ddim neu ostyngiad:

  • i ddysgwyr o gartrefi incwm isel
  • i ddysgwyr anabl
  • i ddysgwyr sy'n cael budd-daliadau

Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (cyllid myfyrwyr cymru).

Lwfans Ceisio Gwaith

Mae’n bosibl y byddwch yn gymwys i gael Lwfans Ceisio Gwaith os:

  • yw eich cwrs yn llai na 16 awr yr wythnos
  • ydych yn gallu dangos eich bod ar gael i weithio

Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol i gael rhagor o wybodaeth.

Costau cludo

Gwnewch gais am gymhorthdal ar gyfer trafnidiaeth neu hyd yn oed drafnidiaeth am ddim yn ystd addysg bellach.

Gofal plant

Mae'n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth i dalu costau gofal plant wrth i chi astudio.  Cysylltwch â'ch ysgol neu goleg lleol i gael rhagor o wybodaeth.