Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 5 Mawrth 2013.

Cyfnod ymgynghori:
8 Ionawr 2013 i 5 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Crynodeb o’r canlyniad

Ceir gwybodaeth am bolisi’r Gymraeg Cyfoeth Naturiol Cymru (dolen allanol) ar ei wefan.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r Cynllun Iaith Gymraeg drafft hwn yn nodi sut y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â'r iaith Gymraeg a'r iaith Saesneg mewn modd cyfartal.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Polisi interim fydd y cynllun hwn hyd nes y cyflwynir Safonau newydd dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Bydd y cynllun yn dod i rym pan gaiff Cyfoeth Naturiol Cymru ei greu ym mis Ebrill 2013 hyd nes y cyflwynir y Safonau newydd. Yna bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn paratoi cynllun newydd ac yn ei roi ar waith er mwyn cydymffurfio â Mesur 2011.

Mae’r cynllun drafft hwn yn ymdrin â’r canlynol:

  • darparu gwasanaethau
  • llunio polisïau
  • gweithredu
  • hybu’r Gymraeg
  • monitro a chadw cofnodion.