2. Cymhwysedd

Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)

Rhaid bodloni'r meini prawf canlynol i fod yn gymwys: 

  • wedi profi argyfwng neu drychineb
  • yn byw yng Nghymru
  • 16 oed, o leiaf
  • nid oes ffordd i chi gael gafael ar arian arall, ac rydych wedi edrych ar bob ffynhonnell ariannol arall

Taliadau Cymorth i Unigolion (IAP)

Rhaid bodloni'r 3 maen prawf isod i fod yn gymwys. 

  1. Bodloni’r amodau grant a ganlyn:
    • yn byw yng Nghymru
    • 16 oed, o leiaf
    • nid oes cynilion gennych nac unrhyw ffynhonnell arall o gyllid
    • nid ydych yn preswylio mewn cartref gofal (oni bai eich bod yn cael eich ryddhau o fewn 6 wythnos)
    • nid ydych yn y carchar ar hyn o bryd (oni bai eich bod yn cael eich rhyddhau o fewn 6 wythnos)
    • nid ydych yn aelod o urdd grefyddol a gynhelir yn llawn
  1. Derbyn un o'r budd-daliadau cymwys hyn:
    • Cymhorthdal Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy’n gysylltiedig ag incwm 
    • cyflogaeth a chymorth lwfans cyffredinol credyd
    • Credyd Pensiwn
    • Credyd Cynhwysol
  1. Bodloni un o’r amodau cymhwystra canlynol:
    • rydych yn gadael cartref gofal neu sefydliad i fyw'n annibynnol yn y gymuned ar ôl o leiaf 3 mis mewn gofal (er enghraifft mewn ysbyty, cartref gofal, carchar, gofal maeth)
    • rydych eisiau parhau i fyw yn y gymuned yn hytrach na gorfod mynd i sefydliad
    • rydych yn sefydlu cartref ar ôl cyfnod o fyw yn ansefydlog
    • rydych yn wynebu pwysau eithriadol ac ar frys ee perthynas yn chwalu neu drais domestig
    • rydych yn mynd i ofalu am garcharor neu droseddwr ifanc a ryddhawyd ar drwydded dros dro